Mason Jones
Mae teulu bachgen 5 oed fu farw o wenwyn bwyd E.coli ddeng mlynedd yn ôl wedi clywed heddiw ei bod hi’n rhy hwyr i ail-agor cwest i’w farwolaeth.

Bu farw Mason Jones, oedd yn byw ym Margoed, yn ystod yr Hydref 2005, wedi iddo fwyta cig a oedd wedi’i heintio â gwenwyn bwyd E.coli yn ei ginio ysgol.

Roedd ei rieni, Sharon Mills a Nathan Jones, wedi bod yn brwydro am ail-agor y cwest wedi i Grwner Gwent, David Bowen, gofnodi rheithfarn naratif yn ystod y cwest cyntaf yn 2010.

Roedd y teulu’n dadlau y dylid fod wedi cofnodi rheithfarn o ladd anghyfreithlon yn erbyn y cigydd, William John Tudor o’r Bont-faen, Bro Morgannwg, a gafodd ei garcharu yn 2007 am dorri cyfreithiau diogelwch bwyd.

Ond dyfarnodd barnwr yn yr Uchel Lys heddiw na ddylai’r cwest gael ei ail-agor.

Roedd tystiolaeth yr heddlu o’r ymchwiliad yn dangos fod bacteria E.coli wedi’i ganfod mewn cigoedd eraill y cigydd John Tudor a’i Fab ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y cigydd yn cyflenwi cigoedd i fwy na 40 o ysgolion eraill yng nghymoedd De Cymru ar y pryd hefyd. Cafodd mwy na 160 o bobl eu taro’n wael gydag E.coli ar y pryd. Mason Jones oedd yr unig un a fu farw.