Safle;r ddamwain yn Mhenryn Sinai yn yr Aifft
Mae’r gwaith o chwilio am gyrff ar ôl i awyren o Rwsia daro’r ddaear ym Mhenrhyn Sinai yn Yr Aifft ddydd Sadwrn yn dirwyn i ben.

Dywedodd Vladimir Puchkov o Lywodraeth Rwsia y dylai’r chwilio yn yr ardal ddod i ben erbyn 10yh (amser Moscow).

Roedd yr awyren Metrojet yn hedfan o ganolfan wyliau Sharm el Sheikh yn Yr Aifft i St Petersburg yn Rwsia pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd y rhan fwyaf o’r 224 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren yn dod o Rwsia ac yn dychwelyd adref o’u gwyliau.

Mae o leiaf 140 o gyrff wedi cael eu darganfod hyd yn hyn o amgylch safle’r ddamwain.

Mae Metrojet wedi atal holl deithiau’r pedair awyren Airbus A321 sydd yn eu fflyd ar ôl y trychineb.

Mae’r cwmni wedi diystyru camgymeriad gan y peilot neu nam technegol fel achosion posibl y ddamwain. Mae’r awdurdodau yn Rwsia wedi ymatal rhag gwneud sylwadau, gan nodi fod yr ymchwiliad yn parhau.

Fodd bynnag, mae Prydain a’r Unol Daleithiau wedi dweud fod ganddyn nhw wybodaeth sy’n awgrymu mai bom achosodd y ffrwydrad ac mae pennaeth maes awyr Sharm el Sheikh, Abdel Wahab-Ali, wedi cael ei  ddisodli yng nghanol pryder rhyngwladol am ddiogelwch yno.

Ond mae Adel Mahgoub, cadeirydd y cwmni sy’n rhedeg meysydd awyr Yr Aifft, yn honni fod Abdel Wahab-Ali wedi cael ei “ddyrchafu” i fod yn gynorthwyydd iddo ac nad oedd y penderfyniad  yn ymwneud a honiadau fod problemau gyda diogelwch y maes awyr.