Ac yntau yn ymddeol y penwythnos hwn, mae Archesgob Cymru yn gofyn i bobol barhau i fod yn glên a charedig wedi i’r pandemig gilio.
Yn ei neges fideo olaf yn ei swydd mae John Davies yn gobeithio y bydd pobol a chymunedau yn parhau i fod yn agos pan fydd covid wedi ei drechu.
Bydd yn ymddeol fel Archesgob Cymru ddydd Sul wedi pedair mlynedd yn y swydd, ac yn rhoi’r gorau i’w waith yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu hefyd – bu’n gwneud y gwaith hwnnw ers 13 o flynyddoedd.
Mi fydd yn cynnal ei wasanaeth olaf yng Nghadeirlan Aberhonddu fore Sul, Mai 2.
“Lot o ddaioni a charedigrwydd a thrugaredd a chariad yn ein cymunedau”
Yn ei neges olaf, mae John Davies wedi diolch i bobol yn gyffredinol am gefnogi’i gilydd, eu heglwysi a’u cymunedau.
“Rydw i’n credu ei bod hi yn neilltuol bwysig i mi ddweud diolch o gofio’r hyn sydd wedi digwydd dros yr 14 mis diwethaf gyda’r pandemig covid, sydd wedi bod yn gymaint o her i ni oll yn ein bywydau personol, ym mywydau ein cymunedau ac o safbwynt ein bywyd eglwysig.
“Un o’r pethau sydd wedi dod i’r amlwg o’r amseroedd heriol hyn yw’r gydnabyddiaeth eang bod yna lot o ddaioni a charedigrwydd a thrugaredd a chariad yn ein cymunedau.
“Mae pobol wedi cefnogi eraill pan oedd angen, pan oedd unigedd, ac yn anffodus pan oedd colled a dioddefaint.
“Ac rwy’n gobeithio bod hynny am barhau, a phan fydd llacio ar y rheolau a hwyrach pan mae hyn i gyd drosodd… y bydd yr awydd yna i gefnogi, i gydymdeimlo, i fod yn garedig, ddim yn diflannu gyda’r pandemig – byddai hynny yn bechod mawr.”
Gallwch wylio neges ffarwel yr Archesgob isod.