Mae Gŵyl y Gelli wedi cyhoeddi enwau rhagor o berfformwyr a chyfranwyr fydd yn cymryd rhan eleni, ac yn eu plith mae Kate Winslet, Rob Brydon a Rufus Mufasa.

Bydd yr ŵyl, a fydd yn cael ei chynnal am ddim ar-lein, yn digwydd am y 34ain tro eleni, ac yn croesawu darllenwyr ac awduron ynghyd ar gyfer amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai, a pherfformiadau.

Dros ddeuddeg diwrnod, rhwng Mai 26 a Mehefin 6, bydd mwy na 300 o awduron, gwneuthurwyr polisi, haneswyr, beirdd, ac arloeswyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl.

Bydd yr ŵyl yn gyfle i drafod materion megis sut i adeiladu byd gwell wedi Covid, a sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd, anghydraddoldeb, a heriau i ddemocratiaeth.

Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda digwyddiad A Night of Hope, a fydd yn cael ei arwain gan Natalie Haynes, ac yn cynnwys darlleniadau llenyddol, theatrig, a barddonol gan Rob Brydon, Rufus Mufasa, a nifer o enwau eraill.

Ddydd Sadwrn, Mehefin 5, bydd digwyddiad arall – From Women to the World Gala – yn rhannu ysgrifau gan fenywod dylanwadol, gyda Kate Winslet, Vanessa Redgrave, a Suzette Llewellyn ymhlith y perfformwyr.

Cyfarfod ar adeg heriol “gyda gobaith”

“Rydyn ni wrth ein boddau yn cael rhannu’r amrywiaeth yma o sêr y llwyfan, y sgrin, a’r byd tu hwnt, yn ystod ein nosweithiau gala o obaith ac ysbrydoliaeth,” meddai Healther Salisbury, Rheolwr Artistig Gŵyl y Gelli.

“Eleni byddwn ni’n dod â’r rhaglen i chi o Siop Lyfrau Richard Booth yng nghanol y Gelli Gandryll, gan groesawu awduron, darllenwyr, meddylwyr, a breuddwydwyr dros y byd ynghyd i ymuno â’n parti digidol.

“Cyfarfyddwn â’r adeg heriol yma gyda gobaith. Ymunwch â ni.”

Mae posib gweld y rhaglen lawn, a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau ar wefan Gwyl y Gelli.

Guto Harri yn addo rhagor o Gymraeg yng Ngŵyl y Gelli

Non Tudur

“Dw i’n meddwl, erbyn y flwyddyn nesa’, bydd yna fwy o sesiynau Cymraeg yn y mics”