Mae Bafta wedi gwahardd aelodaeth yr actor a’r cyfarwyddwr Noel Clarke yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.
Mae Noel Clarke, 45 oed, wedi gwadu’r honiadau. Mae Bafta hefyd wedi gwahardd ei wobr am gyfraniad enfawr i fyd sinema Brydeinig, a enillodd yn gynharach y mis hwn, yn dilyn yr honiadau.
Cafodd yr honiadau eu gwneud ym mhapur newydd The Guardian sy’n dweud bod 20 o fenywod, oedd yn adnabod Noel Clarke trwy ei waith, wedi gwneud honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Doctor Who, ac am gyd-gynhyrchu The Hood Trilogy.
Mae Noel Clarke yn ymddangos yn y gyfres Viewpoint ar ITV ar hyn o bryd.
Dywedodd yr actor nad oedd “erioed wedi cael cwyn” yn ei erbyn yn ystod ei yrfa o 20 mlynedd.
“Os oes unrhyw un sydd wedi gweithio gyda fi erioed wedi teimlo’n anghyfforddus neu eu bod nhw ddim yn cael eu parchu, yna rwy’n ymddiheuro’n daer.
“Rwy’n gwadu’n llwyr unrhyw gamymddwyn neu gamwedd rhywiol ac yn bwriadu amddiffyn fy hun yn erbyn yr honiadau ffug yma.”