Portread o Steffan Dafydd
Mae Steffan Dafydd yn hoff o ddylunio, yn brif-leisydd un o fandiau mwyaf tywyll y Sîn Roc Gymraeg, ac yn wyneb hynod gyfarwydd yng Nghlwb Ifor Bach.
Ers degawd a mwy mae’r canwr 28 oed wedi bod yn ffryntio Breichiau Hir, band sydd â sŵn trwm a lyrics sydd hyd yn oed yn drymach.
Ac mae wedi treulio telpyn go-lew o’i fywyd yn gweithio i Glwb Ifor Bach, y deml gerddorol hynod eiconig yng Nghaerdydd, yn gwneud gwaith marchnata a dylunio.
Tair blynedd yn ôl mi lansiodd Penglog, gwefan lle mae’n arddangos ei waith dylunio, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn gwerthu printiau a bathodynnau difyr.
Yn hanu o Gaerdydd, mi fynychodd Steffan Dafydd Ysgol Uwchradd Plasmawr cyn astudio Dylunio Graffeg ym Mhrifysgol Brighton.
Mi raddiodd yn 2014, a mynd yn syth ar ei ben i weithio i Glwb Ifor Bach.
Mae ganddo’r un swydd o hyd, ond er bod y jobyn fwy neu lai’r un peth, mae’r clwb wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd.
Golyga hynny bod natur ei waith yn amrywio ychydig bob blwyddyn ac mae hynny’n ei wefru.
I lawer o gryts Caerdydd, mae Clwb Ifor Bach yn dod yn ganolbwynt i’w bywydau wrth iddynt gyrraedd eu harddegau, ac roedd hynny’n wir am Steffan Dafydd hefyd.
“Ro’n i’n lyfo Clwb pan o’n i’n tyfu lan,” meddai. “Roedd e’n rhan massive o fy addysg gerddorol i.”
Cafodd ei obsesiwn â cherddoriaeth ei danio pan oedd yn ei arddegau cynnar, ac roedd hynny’n golygu ei fod yn mynd i bob gig oedd yn bosib – yn hytrach na dewis a dethol ar sail chwaeth.
“Ro’n i’n mynd i’r gigs ysgol pan o’n i’n blwyddyn naw, neu flwyddyn 10,” meddai. “Wedyn es i’n really obsessed gyda miwsig trwy gydol fy arddegau i.
“Felly ro’n i’n mynd i lot o gigs. Unrhyw gig i bobol 14 oed a hŷn … A do’n i ddim yn nabod y bands.
“Roedd e’n fater o: ‘fi’n cael mynd i’r gig yna, so wna’i drïo lico fe, neu wrando arnyn nhw cyn mynd’. O’n i’n eitha’ obsessed gyda gwneud hynna.
“Roedd lot o’r gigs hefyd yn hanner gwag achos weithiau roedden nhw ar nos Fercher.”
Yn y pendraw mi drodd yr obsesiwn o wrando ar gerddoriaeth yn chwant i greu ei fiwsig ei hun.
Sefydlodd fand o’r enw Just Like Frank yn 2008 gyda’i gyfaill, Rhys Evans. Ac yn 2010 newidiwyd yr enw i Breichiau Hir ar ôl cân o’r un enw gan y grŵp Ffa Coffi Pawb.
Cyhoeddodd y band EP yn 2015, Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas, a dros y blynyddoedd mae llu o senglau wedi’u cyhoeddi gan gynnwys cyfyr blindrwm y llynedd o ‘Y Bardd o Montreal’ gan Bryn Fôn.
Dyw’r band erioed wedi cyhoeddi albwm, ac mae Steffan Dafydd yn hanner awgrymu mai dyna sydd wedi cadw’r criw i fynd cyhyd.
“Dy’n ni heb ryddhau albwm, a fi’n credu bod hwnna actually wedi meddwl bod awydd yna i gario ymlaen,” meddai. “Ry’n ni wedi mynd mor bell heb ryddhau albwm fel ein bod ni pallu stopo.
“Mae cwpwl o gyfnodau wedi bod lle allen ni fod wedi stopo. Neu galle fe fizzle-o mas. Ond mae yna elfen yna o eisiau gwneud [pethau] yn iawn.
“Fi’n rili rili prowd bo ni heb ryddhau albwm eto!” atega. “Mae’n ffordd bach weird o feddwl amdano fe. Fi’n rili prowd bo ni heb frysio mewn iddo fe, a gwneud e’ for the sake of it.”
Agwedd arall ar y band sydd yn syfrdanu dyn yw’r ffaith bod geiriau’r prif-leisydd wedi parhau’n hynod dywyll.
Mae rocyrs fel arfer yn meddalu wrth heneiddio, ond dyw hynny ddim yn wir am Steffan Dafydd.
Tybed a fydd yntau’n dal yn emo llawn angst yn 80 oed? Mae’r cerddor-ddylunydd yn chwerthin ar y ddelwedd honno, ac yn egluro o ble daw ei lyrics tywyll.
Adlewyrchu naws y gerddoriaeth yw ei nod, meddai.
“Dim fi sy’n sgwennu’r gerddoriaeth,” meddai. “A dw i’n credu ei fod e’n lot o help achos bod y lleill yn sgwennu caneuon [sy’n cyfleu teimlad penodol].
“Mae rhywbeth yn swno’n grac, neu’n swno’n drist, neu mae rhywbeth yn swno’n ballsy. So maen nhw’n sgwennu fel’na. Wedyn rwyf i yn ymateb i’r gerddoriaeth gyda lyrics.
“Mae’r [geiriau] yn swnnio’n horrible ond fi’n credu bod lot ohono fe yn adlewyrchu’r gerddoriaeth mwy na unrhyw beth arall.”
Yn 2018 mi lansiodd Penglog, sef platfform iddo arddangos ei waith dylunio, ac erbyn hyn mae wedi troi’n fan i werthu ei waith.
Ar hyn o bryd mae e’n gwerthu printiau, crysau-T a bathodynnau coc-oen (allwch chi ddehongli hyn yn eitha’ llythrennol!).
Ddechrau mis Ebrill daeth i’r amlwg y byddai un o’i ddyluniadau yn cael ei osod ar groesfan yn Nhreganna, lle gafodd ei fagu a lle mae’n dal i fyw. Mae e’ wrth ei fodd â hynny.
Bellach mae Clwb Ifor Bach wedi lansio ‘Clwb Music’ sef label recordiau a thîm rheoli artistiaid, ac mi fydd Steffan Dafydd ynghlwm â’r gwaith cysylltiadau cyhoeddus, dylunio a brandio.