Sut brofiad yw mynd mewn car ralïo gydag Elfyn Evans?

Arallfydol!

Rydw i’n dipyn o adrenalin junky a ges i fynd yn y car gyda fe ar syrcit tarmac, a wnaeth e sawl donut!

Pan mae e mewn rali, mae Elfyn yn gallu bwrw tua 190 cilomedr yr awr, sy’n gyflymdra anhygoel tra yn gwrando ar y cyd-yrrwr i glywed pa gornel sy’n dod nesaf.

Beth sydd mor dda am wylio ceir yn ralïo?

Does dim chwaraeon tebyg iddo fe!