Mae’r cyflwynydd radio Kevin Johns wedi ei ganfod yn ddieuog o gam-drin bachgen yn ei arddegau ddeugain mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Kevin Johns, 60, o Orseinion, wadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen 14 oed yn Abertawe yn y 1980au.
Ers y dechrau, mae Kevin Johns wedi dweud fod y dioddefwr wedi ei gamgymryd am rywun arall, ac fe’i cafwyd yn ddieuog o’r ddau gyhuddiad heddiw (Ebrill 30) yn Llys y Goron Caernarfon.
“Rydych chi’n gadael gydag eich enw da,” meddai’r Barnwr Timothy Petts.
“Effaith andwyol”
Dywedodd cyfreithiwr Kevin Johns fod y cyhuddiadau wedi “codi cyfog ar Mr Johns”.
“Maen nhw’n mynd yn erbyn popeth y mae e wedi sefyll drosto. Mae’n ddiolchgar ei fod wedi’i ryddhau heddiw o’r diwedd,” meddai Matthew Murphy, y cyfreithiwr.
“Gofynna Mr Johns a’i deulu am amser i adlewyrchu, dod ynghyd, ac ystyried y cam nesaf.
“Nid oes raid dweud fod y digwyddiadau, yn sgil eu natur, wedi cael effaith andwyol ar fywyd Mr Johns, ac yn benodol ar ei yrfa.
“Gyrfa yr oedd Mr Johns wrth ei bodd gyda hi, ac un yr oedd yr holl gymuned yn ne Cymru yn ei charu. Mae hynny i gyd wedi’i golli yn sgil y digwyddiadau hyn.”
Fe wnaeth Kevin Johns ddiolch i bobol am eu cefnogaeth, gan ychwanegu fod hynny “wedi ei gadw i fynd yn ystod y dyddiau tywyll hyn”.
Wrth i’r rheithgor adael y llys, fe wnaeth e ddiolch iddyn nhw dro ar ôl tro.