Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu am dair blynedd am ymosod yn rhywiol ar ddeg menyw a dwy ferch dros gyfnod o ddeuddydd.

Fe wnaeth Oliver Smith, 27, feicio at y menywod a’r merched wrth iddyn nhw redeg neu gerdded, a gafael yn eu penolau, cyn reidio i ffwrdd.

Digwyddodd y troseddau ar Chwefror 12 ac 13 eleni yn Abertawe, a digwyddodd wyth o’r ymosodiadau o fewn pedair awr.

Dywedodd yr erlynydd, Dean Pulling, wrth Lys y Goron Abertawe fod yna ddeunaw dioddefwr i gyd – rhwng 12 a 45 oed – gan gynnwys menywod â phlant, ac un ddynes a wnaeth ddioddef dau ymosodiad.

“Arwain at ofn a dicter eang ymysg menywod”

“Ar adeg y troseddau roedd y diffinydd yn gwisgo dillad du, neu dywyll, gyda hood dros ei ben,” meddai Dean Pulling.

“Digwyddodd y troseddau yn ystod cyfnod clo, a phan oedd y dioddefwyr yn gwneud ymarfer corff, a oedd wedi’i ganiatáu, neu fusnes hanfodol, fel mynd i’w gwaith neu i’r siop.

“Fe wnaeth y ffaith iddo ymosod arnyn nhw ar adeg pan oedd pryderon dwys yn ymwneud â’r coronafeirws ac ymbellhau cymdeithasol gynyddu’r ofn, a’r straen, y gwnaethon nhw ei deimlo ar y pryd.

“Fe wnaeth ymosodiadau’r penwythnos hwnnw dderbyn cryn sylw yn y Wasg, ac fe wnaeth yr ymosodiadau rhyw hyn, a ddigwyddodd mewn llefydd cyhoeddus yn erbyn menywod a merched ar hap, fe ymddengys, arwain at ofn a dicter eang ymysg menywod yn Abertawe.”

Cafodd Oliver Smith ei arestio yn dilyn apêl gan yr heddlu, a chael ei adnabod gan gyn-ffrind ysgol.

Fe wnaeth ef gyfaddef i’r troseddau, a “dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn mynd yn flin ynghylch menywod yn gwisgo Lycra”, meddai Mr Pulling.

“Honnodd ei fod yn targedu menywod oedd yn gwisgo siacedi byr, a gyda’u penolau yn y golwg. Yn ei farn ef, nid oedd yn deg fod rhaid i ddynion weld hynny.

“Dywedodd ei fod yn teimlo’n ddrwg pan welodd rai o’i ddioddefwyr yn crio, a’i fod yn teimlo fod pob menyw yn gwisgo er mwyn denu dynion.”

Dywedodd Oliver Smith wrth yr heddlu ei fod wedi ymosod ar ddynes am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr llynedd, a’i fod yn meddwl ei fod wedi ymosod ar tua phymtheg o fenywod i gyd.

Fe wnaeth ef gyfaddef i 10 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw, un cyhuddiad o ymosod ar blentyn dan 13 oed drwy ei chyffwrdd, ac un cyhuddiad o drio ymosod yn rhywiol.

“Meddylfryd anhyblyg iawn”

Dywedodd Gerard Cullen, cyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, fod seiciatrydd yn credu fod Oliver Smith yn dangos arwyddion o awtistiaeth, ond ei fod yn gwrthod cael ei asesu.

“Mae’r thema sy’n rhedeg trwy gydol yr adroddiad cyn y ddedfryd, a’r adroddiad seiciatryddol, yn dangos yr hyn a ellir ond ei ddisgrifio fel syniadau, syniadaeth, a meddylfryd rhyfedd ar ran Mr Smith,” meddai Gerard Cullen.

“Mae’n wir ei fod yn dioddef o feddylfryd anhyblyg iawn, a rhai syniadau rhyfedd iawn ynghylch sut y dylai menywod wisgo yn gyhoeddus.

“Dw i wedi ceisio dweud wrth Mr Smith fod ganddo hawl cael syniadau fel hyn, ond nad oes ganddo wir hawl i weithredu ar y syniadau hyn yn y ffordd y mae e wedi’i wneud.

“Nid yw hyn yn debyg i’w gymeriad arferol, ac ni allaf ei ddisgrifio fel adeg o wallgofrwydd. Fe wnaeth e ddechrau ym mis Rhagfyr, ac ym mis Chwefror fe aeth ar sbri.”

“Achos anarferol iawn”

Fe wnaeth y barnwr, Guy Walters, ddedfrydu Oliver Smith i dair blynedd yng ngharchar, ei roi ar y rhestr troseddwyr rhyw am oes, a gosod gorchymyn atal niwed rhywiol amhenodol yn ei erbyn.

“Mae hwn, yn ôl safonau pawb, yn achos anarferol iawn,” meddai’r barnwr.

“Mae’n ymddangos eich bod chi, ers mis Rhagfyr diwethaf, ac yn benodol ar Chwefror 12 ac 13, wedi ymosod yn rhywiol ar ddioddefwyr mewn ffordd systematig,” meddai Guy Walters wrth Oliver Smith.

“Mae’n rhaid ei ddisgrifio fel ymgyrch o droseddau rhyw, a wnaeth ddychryn menywod yn, ac o amgylch, Abertawe ar y pryd.

“Er bod y cyffwrdd yn yr achos yma yn cynnwys y pen-ôl a dim byd arall, fyddwch chi wedi clywed fore heddiw am yr effaith sylweddol gafodd hyn ar eich dioddefwyr.

“Mae’r seiciatrydd o’r farn nad salwch seiciatryddol wnaeth achosi eich troseddau, er mae gennych chi syniadau rhyfedd; ni allaf honni fy mod i’n eu deall nhw’n llawn, yn bersonol.”