Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn addo “mwy o swyddi”, “strydoedd mwy diogel” ac i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw hyn ychydig dros wythnos cyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd sy’n cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Senedd ar Fai 6.

Ymhlith y polisïau yn eu cynllun i greu “strydoedd mwy diogel” mae:

  • parhau i recriwtio 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol ledled Cymru a Lloegr erbyn Mawrth 2023
  • cydweithio â heddluoedd eraill a Heddlu Trafnidiaeth Prydain
  • creu Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol i Gymru
  • cynyddu nifer y Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru drwy gynyddu cyllid Llywodraeth Cymru 10% bob blwyddyn
  • creu cronfa o £12m i bartneriaethau diogelwch cymunedol lleol ei defnyddio fel bod pawb yn teimlo’n ddiogel ar ein strydoedd ar ôl iddi dywyllu.
  • gwarantu bod gan yr Heddlu’r dechnoleg ddiweddaraf i ymladd troseddu
  • dyblu uchafswm y ddedfryd ar gyfer ymosod ar weithiwr brys o 12 mis i ddwy flynedd,
  • cyflwyno dedfrydau oes i yrwyr sy’n lladd

“Mae angen mwy o heddlu arnom ar ein strydoedd, y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni hynny,” meddai Jon Burns, ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

“Rhaid inni hefyd ddarparu’r dechnoleg fodern sydd ei hangen ar heddluoedd lleol i wella’r broses o ganfod, adrodd a mynd i’r afael â throseddu.

“Bydd ein cynllun yn darparu mwy o heddlu a strydoedd mwy diogel ar gyfer Cymru gyfan, yn wledig ac yn drefol, fel bod pawb yn teimlo’n ddiogel.”

‘Strydoedd mwy diogel’

“Drwy roi hwb cychwynnol i economi Cymru, gan greu 65,000 o swyddi newydd, darparu swyddi hirdymor sy’n talu’n dda, gallwn gefnogi pobol i ddarparu ar eu cyfer hwy a’u teulu heb orfod troi at droseddu,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dim ond gyda’r Ceidwadwyr Cymreig y gallwn adfer gobaith, dyhead a chyfle yng Nghymru i’n pobol ifanc.

“Drwy gefnogi’r Ceidwadwyr Cymreig ar y 6ed o Fai byddwn yn darparu mwy o swyddi, ysbytai gwell, ysgolion o’r radd flaenaf a strydoedd saffach.”