Gallai rhwydwaith ffeibr llawn gynhwysfawr yng Nghymru alluogi bron i 49,000 o bobol i ailymuno â gweithlu Cymru drwy weithio’n fwy hyblyg, yn ôl adroddiad a gynhaliwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (Cebr).
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Openreach, hefyd yn datgelu y byddai rhwydwaith band eang ffeibr llawn ledled y wlad yn caniatáu i bron i 18,000 o bobol ledled Cymru ehangu’r oriau maen nhw’n gallu gweithio.
A gallai helpu gofalwyr, rhieni a rhai dros 65 oed i gael gwaith gyfrannu tua £1.3bn mewn gwerth ychwanegol crynswth i economi Cymru.
‘Atgyfnerthu pwysigrwydd band eang’
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y gallai newid y broses o gyflwyno band eang ffeibr llawn ledled Cymru fod,” meddai Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru.
“Mae’r pandemig wedi atgyfnerthu cydnabyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd band eang o ansawdd uchel ac rydym yn glir fod gan ffibr ran sylweddol i’w chwarae yn adferiad Cymru.
“Mae canfyddiadau Cebr yn dangos y byddai cyflymu’r gwaith adeiladu yn talu ar ei ganfed i economi Cymru gyfan ac yn allweddol wrth ddod â phobl yn ôl i’r gweithlu nad ydynt wedi gallu llywio ymrwymiadau eraill o’r blaen na dod o hyd i gyfleoedd yn eu hardal leol.
“Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth nesaf Cymru i gael gwared ar fiwrocratiaeth a darparu mynediad i ffibr llawn i filoedd yn fwy o bobl – drwy ein rhaglenni masnachol ac mewn partneriaeth – a chefnogi’r adferiad economaidd yng Nghymru.”