Mae Plaid Cymru’n addo adeiladu 50,000 o dai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf pe bai’r blaid yn dod i rym ar 6 Mai.

Dywed Delyth Jewell, ymgeisydd y blaid yng Nghaerffili, mai dyma’r “rhaglen adeiladu tai cyhoeddus fwyaf ers hanner can mlynedd”.

Byddai’r 50,000 yn cynnwys 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol, 5,000 o dai rhent cost ar rent canolradd, a 15,000 o dai gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.

Dywed fod y pandemig wedi “taflu goleuni” ar y ffaith nad oes gan bawb yng Nghymru gartref diogel ar hyn o bryd.

Mae’n ymrwymo hefyd i ddod â dadfeddiannau o ddiffygion i ben ac i weithredu system newydd o rentu ar gyfer y dyfodol, gan ddweud ei bod yn “gywilyddus bod 41% a 48% o rentwyr mewn tai preifat a chymdeithasol yn y drefn honno, yn byw mewn tlodi”.

Yn ôl y blaid, byddai system newydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol bennu rheol Rhent Byw ar gyfer y sector rhentu preifat a fydd yn capio rhent mewn parthau pwysedd rhent ar uchafswm o draean o’r incwm cyfartalog lleol.

“Cartref i bawb”

“Mae’r pandemig wedi taflu goleuni ar y ffaith nad oes gan bawb yng Nghymru le diogel i alw’n gartref,” meddai Delyth Jewell.

“Mae hyn yn annerbyniol.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymgymryd â’r rhaglen adeiladu tai fwyaf ers hanner can mlynedd i helpu’r 67,000 o aelwydydd sydd ar restrau aros tai ledled Cymru ar hyn o bryd.

“Byddai hwn yn brosiect pum mlynedd yn cynnwys cyfuniad o dai cyngor neu dai cymdeithasol, a chartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.

“Bydd y rhaglen hefyd yn ymrwymo i ddod â rhai o’r 26,000 o gartrefi a fflatiau gwag uwchben siopau ledled Cymru yn ôl i ddefnydd.

“Mae’n gywilyddus bod 41% a 48% o rentwyr mewn tai preifat a chymdeithasol yn y drefn honno, yn byw mewn tlodi, a dyna pam mae angen system newydd o renti teg ar gyfer y dyfodol.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i fynd ymhellach nag unrhyw lywodraeth Lafur gan gynd i’r afael â’r argyfwng tai unwaith ac am byth a gweithio tuag at ein nod o sicrhau cartref i bawb yn ein cenedl.”