Mae dyn 50 oed wedi marw ar ôl damwain ddifrifol ar yr M4 ger Caerdydd neithiwr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng craen, tancer a char Citroen C4 Piccaso am tua 5:45pm nos Fawrth rhwng cyffyrdd 32 a 33, ger Llantrisant.

Cafodd gyrrwr y craen anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a’r lle.

Ni chafodd gyrrwr y tancer, dyn 46 oed, ei anafu, ac mae bellach wedi cael ei arestio ac mae’n helpu’r Heddlu â’u hymholiadau.

Cafodd dynes oedd yn gyrru’r car Citroen ei chludo i’r ysbyty, ond cafodd ei rhyddhau yn ddiweddarach.

 

Oedi hir i yrwyr

Roedd y cerbydau yn teithio tuag at y gorllewin rhwng cyffyrdd 32 a 33 pan fu’r tancer mewn gwrthdrawiad a’r craen ac yna’r Citroen.

Roedd ciwiau hir ar y ffordd ar ôl i’r M4 gau yn dilyn y gwrthdrawiad, ac roedd y ffordd i’r gorllewin ac un lôn tua’r dwyrain ar gau hyd nes tua 1yb.

Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor ond mae ’na gyfyngiad cyflymder o 50mya.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans nad oedd yr ambiwlans awyr wedi gallu cyrraedd y safle oherwydd amodau tywydd gwael.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r ffordd yr oedd y tancer yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod  1500407145.