Jonathon Robert Thomas
Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth cyn-chwaraewr rygbi mewn digwyddiad yn Abertawe fore dydd Sul.
Bu farw Jonathon Robert Thomas, 34 oed, yn y digwyddiad yn Ffordd y Dywysoges yn y ddinas tua 3yb fore dydd Sul, 1 Tachwedd.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond bu farw’n ddiweddarach.
Cafodd y dyn 23 oed, o Sgiwen, Castell Nedd Port Talbot, ei gyhuddo ddydd Llun, meddai Heddlu’r De.
Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Abertawe heddiw.
Mae Clwb Rygbi Abertawe wedi talu teyrnged i Jonathon Thomas.
Arferai chwarae i’r Mwmbwls, Aberafon a Chaerffili cyn ymuno â thîm ieuenctid Abertawe a St Helen’s.
Chwaraeodd i Glwb Rygbi Abertawe rhwng 2002 a 2003.
Mae’r Clwb wedi cydymdeimlo â’r teulu, ei frawd Nicky Thomas sydd hefyd yn chwarae i’r clwb, a’i rieni Rob a Julie yn y cyfnod anodd hwn.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth i’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500404963.