Y Gwyll
Bydd y gyfres dditectif boblogaidd, Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd i’n sgriniau teledu am y trydydd tro ar ôl i S4C gyhoeddi y bydd cyfres arall yn cael ei chomisiynu.

Mae disgwyl dechrau ffilmio’r drydedd gyfres ym mis Ionawr 2016 a bydd y fersiwn Cymraeg yn cael ei dangos ar S4C yn ystod hydref 2016.

Bydd y fersiwn Saesneg, Hinterland yn cael ei darlledu ar BBC One Wales ar ddechrau 2017.

Tirwedd garw Ceredigion fydd llwyfan y cwbl unwaith eto, ac mae disgwyl i lawer o wynebau cyfarwydd y gyfres fel Richard Harrington – DCI Tom Mathias a Mali Harries – DI Mared Rhys, ddychwelyd.

S4C, BBC Cymru, all3media International, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy’n ariannu’r cynhyrchiad, gyda’r cwmni teledu Fiction Factory yn ei chynhyrchu, gyda chyd-grewyr y gyfres, Ed Talfan ac Ed Thomas wrth y llyw.

Mae’r gyfres bellach wedi’i gwerthu i dros 30 o wledydd ac ar gael ar Netflix ledled y byd.

Comisiynu trydedd gyfres yn “gwbl naturiol”

“Mae’r ail gyfres wedi ateb ein disgwyliadau ni ac mae saernïaeth y straeon a datblygiad y cymeriadau yn parhau i ddatblygu momentwm,” meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd.

“Roedd comisiynu trydedd gyfres yn benderfyniad cwbl naturiol i’r darlledwyr, gan fod teyrngarwch gwylwyr y gyfres, yng Nghymru a ledled y  byd, yn parhau i dyfu.  Mae’r comisiwn yn adlewyrchu ein balchder a’n ffydd yn y gyfres.”

Dywedodd Steve Macallister, Prif Weithredwr all3media International: “Mae Y Gwyll/Hinterland yn ddrama bwerus a bythol, yn llawn cymeriadau a straeon cymhleth, ac wedi datblygu yn un o’n cyfresi oriau brig mwyaf eithriadol.

“Mae yna alw rhyngwladol bob amser am gyfresi pellach o ddrama o ansawdd uchel, gan eu bod yn caniatáu i ddarlledwyr a llwyfannau i adeiladu ar y dilyniant ffyddlon sydd ganddynt a chreu cyffro gyda phob cyfres newydd ac rydym yn hynod falch bod y gyfres wedi cael ei chomisiynu am y trydydd gwaith.”