(Prif lun - RhysHuw1 CCA 3.0)
Mae ffigurau gwrando Radio Cymru wedi cwympo i’w lefel isa’ eto, gyda gostyngiad o 12,000 yn ystod y chwarter diwetha’.

Yn ôl ffigurau diweddara’r corff cyfri cynulleidfaoedd Rajar, 104,000 o bobol yr wythnos oedd wedi gwrando ar yr orsaf yn y cyfnod hyd at ddiwedd mis Medi.

Roedd hynny’n cymharu â 116,000 yn y chwarter cynt a fil yn is na’r ffigwr isa’ cyn hynny – 105,000 – union flwyddyn yn ôl.

Tros ddwy flynedd, mae’r gynulleidfa wythnosol wedi gostwng o 143,000 ac mae gwelliant bychan a fu hanner ffordd trwy’r llynedd bellach wedi diflannu.

Dadansoddi

Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru wrth Golwg360: “Er bod cyrhaeddiad gwrandawyr wedi gostwng mae oriau o wrando unigol wedi cynyddu.

“Byddwn yn edrych yn ofalus ar y tueddiadau yn y gynulleidfa i’n helpu i gryfhau’r orsaf ar gyfer y dyfodol.”

Dyw’r ffigyrau gan Rajar ddim yn cynnwys y niferoedd cynyddol sydd bellach yn gwrando ar raglenni radio ar alw drwy wasanaethau megis BBC iPlayer.

Ond dyw ffigyrau gwrandawyr ar gyfer y gwasanaethau hynny ddim yn cael eu rhyddhau gan Radio Cymru.

Mae ffigurau Radio Wales hefyd wedi gostwng, i lawr i 384,000 yr wythnos, o gymharu â 398,000 flwyddyn yn ôl a 474,000 yr un adeg yn 2013.