Paneli haul
Mae Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y byddai torri taliadau am ynni gwyrdd yn arwain at golli swyddi.

Yn ôl Carl Sargeant fe fyddai bwriad Llywodraeth Prydain i newid y Tariff Cyflenwi Trydan yn cael “effaith ddifrifol” ar gynhyrchu ynni yng Nghymru gan beryglu swyddi.

“Ryden ni’n amcangyfrif bod y diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cyflogi dros 3,900 o bobol yn 2013, a ryden ni’n credu bod ansicrwydd ynghylch y newidiadau hyn i gymorthdaliadau ynni adnewyddadwy yn rhoi cyfran sylweddol o’r swyddi yma mewn perygl,” meddai Carl Sargeant.

Bwriad i dorri

Mae’r Tariff Cyflenwi Trydan yn rhoi taliadau i bobol a busnesau sy’n cynhyrchu trydan trwy gynlluniau ynni gwyrdd, gan gynnwys gwynt a haul.

Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan yn cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau i’r cymorthdaliadau hyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei barn.

Heddiw, fe fydd Carl Sargeant yn ymweld â Chymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi gosod paneli haul er mwyn lleihau costau trydan i’w tenantiad.

Ond, yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd rhaid iddyn nhw ailystyried cynlluniau pellach os bydd y Tariff yn lleihau.

Dim angen y cymorthdaliadau – awgrym San Steffan

Yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd fydd dim angen cymorthdaliadau ar y diwydiant ynni adnewyddadwy yn y dyfodol, gan fod llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “lleihau” y costau yn “sylweddol”.

“R’yn ni’n cymryd camau ar frys i fynd i’r afael â’r gorwario arfaethedig ar gymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy ac amddiffyn pobol sy’n talu biliau,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

“Wrth i gostau barhau i ddisgyn ac wrth i ni symud tuag at fuddsoddiad trydan cynaliadwy, fe fydd hi’n haws i rannau o’r diwydiant ynni adnewyddadwy oroesi heb gymorthdaliadau.”