Mae tri pherson wedi cael anafiadau difrifol ar ôl i gar ddisgyn ar greigiau ar draeth Llandrillo yn Rhos ger Bae Colwyn.
Fe wnaeth y car daro i mewn rheiliau cyn taro creigiau ar draeth y pentref glan-môr.
Mae dynes, sydd yn ei 40au, oedd yn gyrru’r car wedi cael ei harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans ei alw a chafodd un oedolyn a pherson yn ei arddegau ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Fe gafodd y person arall ei gludo i Ysbyty Bodelwyddan mewn ambiwlans. Mae’r tri ag anafiadau difrifol.