Pontio
Mae Canolfan Pontio ym Mangor wedi cyhoeddi bod tocynnau ar gyfer digwyddiadau’r gaeaf a’r gwanwyn wedi mynd ar werth heddiw.

Mae dramâu, perfformiad syrcas gyfoes, cerddorfa a chomedi i gyd wedi’u cynnwys yn y rhaglen.

Mae’r arlwy’n cynnwys cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o’r ddrama ‘Chwalfa’, a gafodd ei chanslo oherwydd oedi wrth adeiladu’r ganolfan, syrcas gyfoes NoFit State, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a noson yng nghwmni’r gomedïwraig Ruby Wax.

Yn ogystal, fe fydd noson arbennig gyda’r DJ Huw Stephens, a nosweithiau comedi a sinema.

Yn ystod y tymor agoriadol, fe fydd y ganolfan yn cydnabod y gorffennol, gan gynnwys treftadaeth yr ardal leol drwy brosiect 9Bach Llechi a hanes y streic fawr yn Chwalfa, ynghyd ag arddangosfa a digwyddiad dathlu ddiwedd mis Ebrill.

Mae’r rhaglen yn dechrau ar Dachwedd 28, pan fydd diwrnod arbennig i ddathlu agor y Ganolfan.

Ar Ragfyr 1, fe fydd y sinema’n agor gyda dangosiad o’r ffilm ‘Steve Jobs’ gan Danny Boyle.

Hefyd ym mis Rhagfyr, fe fydd gigs yng nghwmni Swnami, Yws Gwynedd ac Yr Eira, ynghyd â pherfformiadau gan Gôr y Penrhyn, Côr Meibion Llanelli, Meinir Wyn Roberts a Glain Dafydd.

Bydd Ysgol Tryfan hefyd yn llwyfannu sioe gerdd newydd, ‘Y Bancsi Bach’.

Mae Canolfan Pontio wedi costio £45 miliwn – gyda £30 miliwn yn dod o’r pwrs cyhoeddus.

Mae modd gweld y rhaglen yn llawn ar wefan Pontio, a gellir ei phrynu ar y Stryd Fawr neu drwy ffonio 01248 382828.