Y plant yn Times Suare
Yn ôl un athro ysgol yng Nghaerfyrddin, roedd y profiad o ddechrau fflash mob yng nghanol prysurwch Times Square yn Efrog Newydd yn “anhygoel.”

Fe wnaeth tua 400 o ddisgyblion o wahanol ysgolion yng Nghymru a “tua 200” o Gymry America ymuno yn y fflash mob yng nghanol Efrog Newydd neithiwr.

Roedd y fflash mob yn cynnwys dod at ei gilydd yng nghanol Times Square a chodi i ganu’r anthem genedlaethol.

“Mi wnaethon ni gyd eistedd ar y grisiau ac edrych mas dros Times Square a chodais a chwythu’r chwiban ac unwaith chwythes i’r chwiban, cododd pawb ar eu traed a dechrau canu ac o’n i’n gweld pobl yn rhedeg draw,” meddai Dr Huw Griffiths, pennaeth yr adran Hanes yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

“Roedd e’n anhygoel fel oedd y bobl ‘ma yn mynd draw (at y fflash mob).”

“Roedd e’n brofiad anhygoel. Gweld y disgyblion i gyd yn eistedd ar y grisiau (ar y dechrau), a bod yn rhan o rywbeth bythgofiadwy i ddweud y gwir.”

Canu adeg corwynt Sandy y tu ôl i’r syniad

Yn ôl yr athro, sydd wedi bod yn trefnu teithiau i Efrog Newydd gyda’r ysgol am dros 12 mlynedd, roedd canu yn Times Square adeg corwynt Sandy, oedd wedi taro’r ddinas tair blynedd yn ôl, yn un o’r rhesymau y tu ol i’r syniad.

“Tair blynedd yn ôl, ro’n i ‘ma (yn Efrog Newydd) adeg hurricane Sandy, ac o’n i yng nghanol Times Square ac roedd y lle’n wag, doedd neb ‘na. Ac ar y grisiau wedyn dyma un o’r disgyblion yn dechrau canu Anfonaf Angel, ac ymunodd y disgyblion ag ef. A dwi wastad wedi cofio hwnna.

“Ac oedd hwnna wedi cyd-fynd wedyn â’r syniad o weld Scott Quinnell yn gwneud y fflash mob ‘na yn Victoria Station (yn Llundain).”

Dywedodd yr athro hefyd nad oedd y plant eisiau rhoi’r gorau i ganu, gan fynd ymlaen i ganu Calon Lân a Sosban Fach ar ôl yr anthem.

“Doedden nhw ddim am stopio, ac yn meddwl am ganeuon eraill gallan nhw ganu. Roedden nhw am barhau â’r teimlad a’r agosatrwydd hynny. Roedd e’n rhywbeth anhygoel.”