Gweithwyr dur y tu allan i'r Senedd heddiw
Mae angen gweithredu ar frys er mwyn achub y diwydiant dur wrth iddo wynebu argyfwng.

Dyna fydd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid yn ei ddweud wrth swyddogion ym Mrwsel heddiw yn ystod cyfarfod i drafod y diwydiant.

Mae Gweinidogion yn barod i drafod y posibilrwydd o atal Tsieina rhag gwaredu ar ddur rhad fel opsiwn i amddiffyn cynhyrchwyr o wledydd Ewrop.

Fe fydd Sajid Javid yn galw am gyfarfod brys o gynrychiolwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i ymateb i gyfres o heriau sy’n golygu y gallai’r diwydiant dur yng ngwledydd Prydain ddod i ben.

‘Heriau digynsail’

 

Dywedodd Sajid Javid: “Rwy am weld dur ar frig agenda’r Undeb Ewropeaidd.

“Allwn ni ddim aros tra bod y diwydiant dur ledled Ewrop, ac nid y DU yn unig, yn wynebu’r fath heriau digynsail.

“Does dim atebion syml i’r heriau byd-eang cymhleth ond mae llywodraeth y DU am gydweithio â’r Undeb Ewropeaidd a’n partneriaid Ewropeaidd i wneud popeth fedrwn ni i gefnogi ein diwydiant dur.”

Gweithwyr o dde Cymru yn lobio ASau

Yn y cyfamser, fe fydd gweithwyr o dde Cymru ymhlith cynrychiolwyr o’r diwydiant dur fydd yn teithio i San Steffan heddiw i lobïo Aelodau Seneddol ac i fynnu bod Llywodraeth Prydain yn ymateb ar frys i’r argyfwng.

Yn ddiweddarach, fe fydd y Blaid Lafur yn arwain dadl ar nifer y swyddi sydd wedi cael eu colli yn y diwydiant dros yr wythnosau diwethaf.

Ymhlith y cwmnïau sydd wedi cyhoeddi y bydd swyddi’n cael eu colli mae Tata Steel ac SSI.

Mae pryderon hefyd y gallai gweithwyr Caparo golli eu swyddi ar ôl i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.