A hithau yn Ddydd Gŵyl Piran Sant, mae criw o bobol o Hwngari wedi dangos eu cariad at Gernyw trwy rannu neges fideo a recordiwyd yn Hwngari a Chernyw.

Dydd Gŵyl Piran Sant – neu Gool Peran yn y Gernyweg – yw diwrnod cenedlaethol Cernyw.

Ac i ddathlu pob peth Cernywol mae menter ddiwylliannol Cymru-Hwngari, ‘Magyar Cymru’, wedi cynhyrchu fideo gyda chymorth cymuned ar-lein Hwngari, Keltaklub, sy’n ymddiddori mewn diwylliant Celtaidd.

“Rydym wedi bod yn adeiladu ‘pontydd’ diwylliannol rhwng Hwngari a Chymru ers blynyddoedd, ac felly roeddem yn teimlo bod Dydd Gŵyl Piran Sant yn gyfle perffaith i gydnabod ac arddangos diwylliant ac iaith hardd Cernyw hefyd,” meddai sylfaenydd Magyar Cymru, Balint Brunner.

“I wneud hyn, fe wnaethom ymuno â Keltaklub i estyn allan at ein ffrindiau yng Nghernyw a dathlu’r diwrnod arbennig hwn gyda nhw – tra’n rhoi cynnig ar siarad Cernyweg!”

Yn ogystal â’r fideo, bydd Magyar Cymru yn rhannu ymadroddion Cernyweg, cyflwyniad i gerddoriaeth Cernyweg, a seminarau gan academyddion sydd wedi meithrin cysylltiadau rhwng Cernyw a Hwngari.

Daw hyn wedi i Gastell Breda yn ne-ddwyrain Hwngari gael ei oleuo yn lliwiau’r Ddraig Goch i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

‘Edmygedd mawr’

“Mae gen i edmygydd enfawr o ddiwylliannau Celtaidd – ac nid yw Cernyw yn eithriad!” meddai Bíborka Farkas, awdur o Hwngari sydd yn gyfrifol am y grŵp ar-lein Keltaklub.

“Rwy’n arbennig o falch o weld bod yr iaith anhygoel hon yn dal i fod yn rhan bwysig o hunaniaeth Cernyw heddiw.

“Mae gennyf barch mawr at y rhai sy’n benderfynol o ddiogelu, cofleidio a defnyddio’r iaith wych hon – ac rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i ddysgu ychydig eiriau fy hun!”

Anfon ‘llythyr serch’ o Hwngari i Gymru

Cymdeithas Magyar Cymru sy’n gyfrifol am y weithred o “godi pontydd”