Y gwasanaethau brys tu allan i glwb nos Streets, Porthcawl,
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i  wrthdrawiad a ddigwyddodd y tu allan i glwb nos ym Mhorthcawl fore Sul.

Anafwyd 13 o bobol wrth i gar Audi S4 daro i mewn i loches ysmygu y tu allan i glwb nos Streets, yn Stryd John, Porthcawl.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod fan heddlu wedi bod yn dilyn car gwyn ychydig cyn y digwyddiad.

Fe ddywedodd yr heddlu bod yr IPCC yn cynnal “ymchwiliad mewnol”  i’r achos.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 24 oed o Borthcawl ar amheuaeth o yrru’n beryglus dan ddylanwad alcohol.

Mae dynes 18 oed hefyd yn cynorthwyo Heddlu De Cymru gyda’r ymchwiliad.

Anafiadau i’w coesau

 

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i glwb nos Streets, ym Mhorthcawl o gwmpas 1 y bore ddydd Sul.

Aethpwyd â deg o bobol, rhwng 17 – 43 oed i’r ysbyty. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg wedi cadarnhau fod naw o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol ac yn dioddef o drawma. Maen nhw’n dioddef o anafiadau i’w coesau yn bennaf.

Un o’r rhai a anafwyd oedd Sam Buffet, 19 oed.

Fe ddywedodd ei ewythr, Steve Thomas, eu bod nhw’n lwcus nad oedd neb wedi’u lladd.

Ymchwiliad IPCC

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y IPCC: “Gallaf gadarnhau bod yr achos wedi cael ei  gyfeirio aton ni yn ystod oriau mân fore Sul.

“Rydyn ni’n asesu lefel cysylltiad y IPCC, os o gwbl, ar hyn o bryd.”

Fe ddywedodd uwch-arolygydd yr heddlu, Andy Valentine fod hyn wedi’i ddatgan fel “digwyddiad difrifol”.

Fe wnaeth AS Pen-y-bont ar Ogwr, Madeleine Moon hefyd ymateb ar Twitter gan ddweud: “Mae fy meddyliau gyda’r rhai a anafwyd neithiwr  tu allan Streets Porthcawl a gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Newidiwyd noson allan a bywydau mewn ennyd.”

Mae Heddlu De Cymru yn galw am lygad dystion a welodd y car Audi A4 i gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 151.