George Osborne
Fe fydd cynllun dadleuol i dorri credydau treth yn cael ei herio yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw.
Mae gwrthwynebwyr yn gobeithio y bydd cynlluniau’r Canghellor George Osborne yn cael eu trechu.
Mae’r Blaid Lafur yn credu y bydd digon o aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn cefnogi ei ymgais i atal y toriadau nes bod y Trysorlys yn ymgynghori ymhellach.
Fe fydd mwy na thair miliwn o deuluoedd yn colli £1,300 ar gyfartaledd bod blwyddyn o fis Ebrill.
Ond mae gweinidogion yn dadlau y bydd pobl sy’n gweithio yn elwa o isafswm cyflog uwch, lwfansau treth mwy a gofal plant am ddim.
Mae gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet Matthew Hancock wedi awgrymu bod y Canghellor yn “barod i wrando” ac y gallai ystyried gwelliannau mewn ymateb i’r feirniadaeth lem i’r toriadau.
Fe fyddai’r toriadau yn golygu bod £4.4 biliwn yn cael ei dorri o gredydau treth rhai o deuluoedd tlotaf y wlad.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 fe rybuddiodd Matthew Hancock y byddai pleidlais gan yr Arglwyddi i atal neu ohirio’r toriadau yn mynd a’r Senedd i “lawr llwybr cyfansoddiadol digynsail.”