Germaine Greer
Mae ffrae wedi codi ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi i’r ymgyrchwraig hawliau merched, Germaine Greer, ddweud mewn cyfweliad teledu nad “merched go iawn” ydi dynion sydd wedi cael llawdriniaeth newid rhyw.

Mae 500 o bobol wedi arwyddo deiseb ar y we gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn galw ar i ddarlith gan Germaine Greer, ‘Women & Power: The Lessons of the 20th Century’ gael ei chanslo oherwydd y sylwadau wnaethpwyd gan y ddarlithwraig ar raglen Newsnight ar BBC2.

Ond mae’r academydd wedi taro’n ol trwy ddweud y dylai prifysgolion ganiatau i farn amhoblogaidd gael ei lle, gan awgrymu mai gwaith sefydliadau addysg uwch yw hyfforddi pobol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglyn â’r hyn y maen nhw’n ei gredu.

Ac mae Germaine Greer yn bwriadu rhoi’r ddarlith, ar yr amod fod Prifysgol Caerdydd yn gallu sicrhau ei diogelwch.