Llun camera cylch cyfyng o gar Alec Warburton ar ol iddo fynd ar goll (Heddlu De Cymru)
Fe fydd David Craig Ellis, 40 oed, yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe y bore yma wedi ei gyhuddo o lofruddio Alec Warburton.

Roedd y landlord 59 oed wedi bod ar goll o’i gartref yn Sgeti, Abertawe, ers 31 Gorffennaf eleni.

Daethpwyd o hyd i’w gorff ym mhentref Dolwyddelan, ger Blaenau Ffestiniog ar 20 Medi, ddeuddyd ar ôl i David Craig Ellis, un o’i denantiaid, gael ei arestio yn Iwerddon.

Mae David Ellis wedi ei gadw dan glo ers hynny ond dim ond ddoe y daeth y broses i ben i ddod age f yn ôl i Gymru o Weriniaeth Iwerddon.

Yn y ddalfa

Mae bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Abertawe, nes iddo ymddangos yn y llys heddiw.

Mae David Ellis wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Alec Warburton ac o dorri gorchymyn hysbysu o dan y Ddeddf Troseddau Rhyw.