Leanne Wood (llun Plaid Cymru)
Iechyd fydd prif arf arweinydd Plaid Cymru wrth iddi ymosod ar y Blaid Lafur mewn araith fawr heddiw.

Fe fydd Leanne Wood yn dweud wrth gynhadledd ei phlaid nad oes modd ymddiried y Gwasanaeth Iechyd i ddwylo’r blaid Lafur unwaith eto.

Fe fydd yn addo gwarchod gwario ar y gwasanaeth, a hynny’n creu 1,000 o swyddi ychwanegol i feddygon, gan ddweud bod Llafur wedi cael digon o gyfle i wella pethau ac wedi methu.

Nicola’n ymweld

Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn annerch y gynhadledd yn Aberystwyth ond fe fydd Leanne Wood yn rhybuddio bod gan Blaid Cymru waith caled iawn i’w wneud cyn ailadrodd llwyddiant yr SNP.

Ac mae arweinydd y Blaid dan bwysau ar ôl eu methiant i wneud marc o gwbl yn Etholiad Cyffredinol Prydain, er iddyn nhw gael mwy o sylw ar y cyfryngau Prydeinig nag erioed o’r blaen.

Ac er fod Plaid Cymru y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr yng Nghymru, fe fydd Leanne Wood yn gosod y nod o gipio grym a ffurfio llywodraeth ar ôl etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

‘Rhaid gwneud rhywbeth gwahanol’

Fe fyddai buddugoliaeth arall  i Lafur yn ddrwg i ddemocratiaeth, meddai, mewn dyfyniadau o’i haraith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.

“Od ydyn ni eisiau gwella safle Cymru, rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol,” meddai.

“Os ydyn ni am weld llywodraeth a fydd yn brwydro’n barhaus tros fuddiannau Cymru bob amser, dim ond Plaid Cymru all gyflawni hynny.”