Mae’r cynnydd yn nifer y bobol sydd o blaid annibyniaeth i Gymru’n ymwneud mwy ag “ysbryd yr oes ar lefel elit” nag “achos poblogaidd”, yn ôl Syr John Curtice.

Daw sylwadau Athro Gwleidyddiaeth Prifysgol Ystrad Clud (Strathclyde) a Llywydd Cyngor Polau Prydain yn y cylchlythyr Ceidwadol, State of the Union.

Wrth drafod datganoli yng ngwleydd Prydain, mae’n dweud mai’r pandemig Covid-19 yw’r “mater pwysicaf o bell ffordd yn hanes datganoli” a’i fod yn “gadael popeth arall yn y cysgodion”.

Mae’n dadlau bod y ddadl economaidd tros yr Undeb wedi’i gwanhau ychydig gan Brexit, gyda mwy o bobol erbyn hyn yn teimlo y byddai’r Alban ar ei hennill yn economaidd o ennill ei hannibyniaeth.

Ac mae’n dweud bod cyfrifoldeb ar y rhai sydd o blaid yr Undeb i ddadlau drosti a dweud pam y byddai’r Alban yn well fel rhan o’r Deyrnas Unedig nag y byddai pe bai’n mynd yn annibynnol.

Ychwanega mai Brexit, ar y cyfan, oedd yn gyfrifol am y twf sydyn mwyaf diweddar yn nifer y bobol sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban.

Gweddill gwledydd Prydain

Mae’r erthygl wedyn yn troi at weddill gwledydd Prydain.

O safbwynt Gogledd Iwerddon, mae’n dweud bod “nifer fawr o bobol yr ochr yma i Fôr Iwerddon yn meddwl am Ogledd Iwerddon fel darn bach o wlad sydd ychydig yn dramor”.

Wrth droi ei sylw at Gymru, mae’n dweud bod y gefnogaeth i annibyniaeth yn aros yn gyson o amgylch 23%.

“Mae’r ddadl am annibyniaeth i Gymru’n ymwneud mwy ag ‘ysbryd yr oes ar lefel elit’ (‘elite level zeitgeist’) nag ‘achos poblogaidd,” meddai.

“Mae bellach yn cael cefnogaeth rhyw 23%.

“Felly mewn gwirionedd, mae hi wedi bod ar y lefel yna dros y blynyddoedd diwethaf, ond os ewch chi’n ôl i’r darlleniadau cynharaf, roedd ychydig yn is nag 20%.”