Hen safle Alwminiwm Môn
Mae cwmni o China wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £2bn mewn dau gynllun ynni biomas a bwyd yng Nghymru – gan greu 1,000 o swyddi newydd.

Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £5bn ym Mhrydain, ac fe ddaw wrth i Arlywydd China, Xi Jinping, ddechrau ymweliad swyddogol â Phrydain.

Fe fydd y buddsoddiad yn cael ei wneud mewn dwy ffatri yng Nghymru, un ym Mhort Talbot a’r llall yng Nghaergybi, ar hen safle Alwminiwm Môn.

Cynllun ‘arloesol’

Bydd cwmni SinoFortone yn buddsoddi £2bn ym mharciau Orthios Eco Parks i ddatblygu ynni o wastraff, a chanolfan greu bwyd.

Bwriad  cwmni Orthios ar y cyd â SinoFortone, fydd datblygu’r dechnoleg hon mewn rhannau eraill o’r byd wedi hynny.

Fe wnaeth Albert Owen, AS Ynys Môn groesawu’r cyhoeddiad gan ddweud y bydd y parc eco “yn un o’r rai mwyaf datblygedig o ran technoleg – ac mae’n wych gweld Ynys Môn yn chwarae rôl arloesol mewn cynaliadwyedd.”

 

‘Newyddion arbennig’

 

“Mae hyn yn newyddion arbennig i Ynys Môn ac i Gymru’n gyffredinol,” meddai Albert Owen.

“Mae buddsoddiad o £2 biliwn yn ymrwymiad anferthol i Gymru ac yn creu dros 500 o swyddi yn Ynys Môn ac yn hwb mawr i’r ardal leol.”

Fe ddywedodd ei fod wedi cyflwyno’r syniad yn ystod y Senedd, a’i fod yn “wych i weld y cynlluniau’n dod at ei gilydd.”

Fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio a’r ddau gwmni, er mwyn “sicrhau y bydd y prosiect yn un tymor hir ac yn cynnig swyddi cynaliadwy ac o ansawdd da i’r bobol leol.”