Mae 1,700 o swyddi yn y diwydiant dur ym Mhrydain yn y fantol ar ôl i gwmni Caparo Industries gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Cafodd y busnes yng ngorllewin Canolbarth Lloegr, sydd a tua 20 o safleoedd ar draws y DU yn ogystal ag India a’r Unol Daleithiau, ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr prynhawn ma.
Mae cwmni PwC wedi cael ei benodi’n weinyddwyr Caparo Industries ac maen nhw’n ceisio dod o hyd i brynwyr ar gyfer 16 o wahanol fusnesau’r cwmni.
Yn ôl ffynonellau, mae 1,700 o staff y busnesau yn parhau i gael eu cyflogi a’u talu.
Credir bod trafodaethau wedi cael eu cynnal dros y penwythnos er mwyn ceisio achub y busnes ond eu bod wedi methu a chael digon o gefnogaeth.
Yn y cyfamser mae disgwyl cyhoeddiad yfory gan gwmni Tata am 1,200 o ddiswyddiadau yn ei safleoedd cynhyrchu dur yn Scunthorpe a’r Alban.
Mae’r cyhoeddiadau yn ergyd pellach i’r diwydiant dur ac mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd yn codi’r mater o ddur rhad gydag Arlywydd China, Xi Jinping, sy’n dechrau ymweliad swyddogol a’r DU heno.