Mae Dyfodol i’r Iaith wedi rhybuddio bod biwrocratiaeth y Safonau Iaith yn mynd “i lethu ymarfer da mewn cyrff cyhoeddus.”

Fe fydd cynrychiolwyr y mudiad yn mynegi eu pryderon mewn cyfarfod â Chomisiynydd y Gymraeg yr wythnos hon.

Ar frig yr agenda bydd trafodaeth ynglŷn â’r Safonau Iaith yng nghyd-destun maniffesto diweddar Dyfodol, Creu Dyfodol i’r Gymraeg. Mae’r ddogfen hon yn gofyn am symud y pwyslais oddi wrth reoleiddio ac amddiffyn y Gymraeg tuag at ei hyrwyddo fel iaith fyw yn y cartref a’r gymuned.

Wrth i ofynion y Safonau gael eu gosod ar awdurdodau lleol, mae nifer o gynghorau eisoes wedi mynegi eu gwrthwynebiad.

Dywedodd Dyfodol i’r Iaith: “Tra bo gwrthwynebiadau Cynghorau megis Wrecsam yn peri fawr o syndod, mae’n arwyddocaol iawn  bod Cyngor Gwynedd wedi herio 55 o’r Safonau a osodwyd arnynt.”

Yn ôl Dyfodol, gofid y Cyngor yw y bydd rhai o’r gofynion yn cynrychioli cam yn ôl – bod y pwyslais ar gynnig “dewis” iaith yn tanseilio ei ymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith swyddogol a dewis diofyn i ddefnyddwyr a’r gweithlu.

‘Sefyllfa druenus’

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Ymddengys fod biwrocratiaeth y Safonau a’u pwyslais ar ddarpariaeth unffurf yn bygwth llethu ymarfer da.

“Bu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i hyrwyddo a blaenoriaethu’r Gymraeg yn esiampl o’r hyn y mae modd i’w gyflawni. Mae hefyd, wrth gwrs, yn bolisi sy’n adlewyrchu dymuniadau ac anghenion trigolion y sir. Edrychwn ymlaen at drafodaeth gadarnhaol gyda’r Comisiynydd i geisio gwrthdroi’r sefyllfa druenus hon.”

Cyflwyno’r ail gylch ‘yn raddol’

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi ei fwriad i gyflwyno Safonau’r Gymraeg ar yr ail gylch o sefydliadau yn “raddol”.

Gan ymateb i gasgliadau Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar gyflwyno’r ail gylch o sefydliadau a fydd yn gymwys i ddilyn rheoliadau Safonau’r Gymraeg, dywedodd Carwyn Jones na fydd y gwaith o osod y set gyntaf o reoliadau yn dechrau tan ddiwedd y flwyddyn.

Mae hyn oherwydd y “nifer sylweddol o sefydliadau sydd yn rhan o’r ail ymchwiliad a’r amrywiaeth o sectorau sydd yn cael eu cynnwys.”

119 o sefydliadau sydd yn yr ail gylch i gyd.

“Rwy’n ddiolchgar am waith y Comisiynydd. Mae’r adroddiadau a’r casgliadau wedi ein galluogi i ymestyn ein dealltwriaeth o’r safonau gallai fod yn berthnasol i’r sefydliadau,” meddai’r Prif Weinidog.

Dim safonau ychwanegol i’r sector iechyd

Ond dyw Gweinidogion Cymru ddim yn cytuno ag argymhelliad y Comisiynydd bod angen safonau ychwanegol er mwyn sicrhau bod “darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith â’r sefydliadau iechyd” yn yr ail gyfres o safonau.

Yn ei ymateb, mae’r llywodraeth wedi dweud y byddai hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar sefydliadau nad oedd yn rhan o ail gyfres y safonau iaith, ac felly byddan nhw’n “ystyried y casgliad hwn ymhellach” yn hytrach na’i dderbyn.

Ac os byddan nhw’n dod i’r casgliad bod angen safonau newydd neu fod newidiadau polisi arwyddocaol, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal “ynghylch y Rheoliadau drafft ar gyfer y sector iechyd.”

Bydd manylion y broses hon yn cael eu cyhoeddi “maes o law.”

‘Miloedd yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg’

 

Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi mynegi eu pryder y bydd “oedi pellach” cyn “sicrhau hawliau cryfach a chliriach i’r Gymraeg.”

“Mae’n destun pryder mawr, pum mlynedd ers i’r ddeddfwriaeth iaith gael ei basio’n unfrydol gan y Cynulliad, nad yw’r Comisiynydd na’r Llywodraeth wedi defnyddio’r holl bwerau sydd gyda nhw,” meddai Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad.

“Mae cannoedd ar filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd – ar y trenau a’r bysiau a chan gwmnïau ffôn ac ynni – achos eu diffyg gweithredu. Os mai blaenoriaeth y Llywodraeth a’r Comisiynydd yw hybu defnydd y Gymraeg, yna dylen nhw symud yn gyflym i ddod â’r cwmnïau hyn o dan y Safonau.”

“Rydym yn sicr yn credu y dylai hawliau i’r Gymraeg ymestyn i’r sector gofal sylfaenol fel mae Comisiynydd wedi argymell, a byddwn ni’n annog i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym ar hyn.”