Mae dyn wedi ymddangos o flaen  llys heddiw wedi’i gyhuddo o roi cyffuriau a llofruddio pedwar dyn ifanc yr oedd wedi cyfarfod â nhw drwy wefannau ar gyfer hoywon.

Mae Stephen Port, 40 oed, wedi’i gyhuddo o wenwyno pedwar dyn, pob un yn eu hugeiniau, mewn cyfres o ymosodiadau dros flwyddyn yn ôl.

Mae’n debyg fod Port wedi gwahodd y dynion yn ôl i’w dŷ, lle cawsant gyffuriau GHB, cyn iddo adael eu cyrff o amgylch mynwent ac adfeilion hen abaty yn nwyrain Llundain.

Mae Stephen Port o Barking wedi’i gyhuddo o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth a phedwar cyhuddiad o wenwyno gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu achosi niwed corfforol difrifol.

Fe ymddangosodd yn y llys heddiw i gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad yn unig.

Y pedwar dyn

 

Roedd Anthony Walgate, 23 oed, yn fyfyriwr ffasiwn a chynllunio ym Mhrifysgol Middlesex, ac fe gadarnhawyd ei farwolaeth ar Fehefin 19 y llynedd.

Roedd Gabriel Kovari, 22 oed, yn wreiddiol o Slofacia ac yn byw yn Lewisham. Daethpwyd o hyd i’w gorff ym mynwent St Margaret’s, Barking ar Awst 12 y llynedd.

Mis yn ddiweddarach, daethpwyd o hyd i gorff Daniel Whitworth, 21 oed o Gravesend yng Nghaint yn yr un fynwent a hynny ar Fedi 20.

Daethpwyd o hyd i gorff Jack Taylor, 25 oed, o Dagenham mewn adfeilion Abaty ar Fedi 14.

Doedd yr heddlu ddim wedi cysylltu’r marwolaethau yn y lle cyntaf, ond fe gawsant eu cyfeirio wedi hynny at yr Heddlu Metropolitan ac at arbenigwyr dynladdiad a throseddau difrifol ar Hydref 14 y llynedd.

Fe wnaeth y Barnwr Shlomo Kreiman gadw Stephen Port yn y ddalfa tan y bydd yn ymddangos yn llys yr Old Bailey ddydd Mercher.