Rhannau o Gymru sydd wedi’u dieithrio mwyaf o sgiliau digidol a defnydd o’r we, yn ôl adroddiad diweddaraf gan Go ON UK.

Roedd yr ymchwil a wnaed gan yr elusen yn asesu ffactorau cymdeithasol ardaloedd Prydain mewn perthynas â’u sgiliau digidol.

Roedd y rhain yn cynnwys addysg, incwm ac iechyd, ac fe wnaethon nhw ddefnyddio’r canlyniadau i greu map i ddangos pa ardaloedd sydd heb y gallu na’r cyfleusterau i ddefnyddio’r we.

Fe wnaethon nhw brofi sgiliau pobol wrth gwblhau pump sgil sylfaenol ar-lein, gan gynnwys rheoli gwybodaeth, cyfathrebu, masnachu, datrys problemau a chreu deunydd ar-lein.

Cymru oedd â’r gyfradd cyflawni isaf drwy Brydain, gyda 61% o’r rhai a ofynnwyd yn cwblhau’r tasgau. Roedd 84% o’r oedolion a ofynnwyd yn Llundain yn medru gwneud y tasgau.

Cyfeiriwyd hefyd at Gonwy ag ucheldir yr Alban fel yr ardaloedd sydd wedi’u dieithrio mwyaf o’r cyfryngau digidol.

Map

Roedd yr ymchwil yn dangos nad oes gan un o bob pedwar o bobol y DU sgiliau digidol sylfaenol.

Fe ddywedodd Martha Lane-Fox, un a fu’n gyfrifol am ymchwil Go ON UK:

“Mae’r ffaith na all miliynau o oedolion wneud pedwar peth rydym ni yn ei ystyried fel y lefel isaf o fynediad i’r rhyngrwyd – yn eu dal nhw’n ôl, ond mae hefyd yn dal y wlad yn ôl.”

Fe ddywedodd Rachel Neaman, Prif Weithredwr Go ON UK fod y map yn dangos “nad oes un achos pendant i ddieithrio digidol,” a bod lleoliad ac ardaloedd yn effeithio’n fawr ar fynediad a gallu pobol i ddefnyddio’r we.

Mae’r elusen wedi cynhyrchu map yn dangos faint o’r boblogaeth sydd â mynediad i’r we.