Melissa Natalie Bowles (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio unwaith eto am wybodaeth am ferch 14 oed sydd ar goll o’i chartre’ yn Wrecsam.

Does neb wedi gweld Melissa Natalie Bowles ers dydd Iau, Hydref 15. Bryd hynny, roedd hi’n gwisgo top a throwsus du.

A hithau bellach yn dri diwrnod ers iddi fynd ar goll, mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un allai fod wedi’i gweld – neu gadarnhau ei bod hi’n ddiogel – i gysylltu gyda nhw ar y rhif 101.

Mewn datganiad heddiw, mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud ei bod hi’n bosib fod Melissa Natalie Bowles wedi teithio i ardaloedd Blackpool, Maidenhead neu Swindon.