Mae ymladdwr tân o Fanceinion wedi’i ganfod yn farw yn yr orsaf lle’r oedd yn gweithio.
Mae papur newydd The Manchester Evening News yn adrodd sut y daethpwyd o hyd i reolwr criw nos yr orsaf, Lee Gaunt, 41, yn crogi yn Stalybridge Station tua 4.4oyb heddiw gan gydweithiwr.
Mae datganiad gan y frigâd yn dweud fel hyn: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Greater Manchester yn drist o orfod cyhoeddi fod dyn tân ar alwad wedi’r ganfod yn farw fore heddiw.”
Unwaith y cyhoeddwyd y newyddion, fe ddechreuodd teyrngedau lu gael eu rhoi i Lee Gaunt ar wefannau cymdeithasol.