Mae barn pobol Cymru ar dderbyn ffoaduriaid i’r wlad yn dibynnu ar ba ddosbarth cymdeithasol y maen nhw’n perthyn, ac o le maen nhw’n dod.
Dyna beth mae ymchwil gan Ymchwil Beaufort wedi’i ganfod, sy’n dangos bod pobol Cymru yn ddigon rhanedig ar y cwestiwn a ddylai’r Deyrnas Unedig dderbyn ei “chyfran deg” o geiswyr lloches.
Roedd 46% o boblogaeth Cymru yn credu y dylai’r DU dderbyn cyfran helaeth o ffoaduriaid, fel y cytunodd gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, ac fe aeth 3% gam ymhellach, gan ddweud eu bod am weld y DU yn derbyn yr holl ffoaduriaid sydd eisiau dod yma.
Roedd un rhan o dair o bobl Cymru yn credu y dylai’r DU dderbyn nifer cymharol fach o geisiwyr lloches, tra bod 16% o’r boblogaeth ddim am i’r wlad dderbyn yr un ffoadur.
Amrywiaeth rhwng y dosbarthiadau
Roedd gwahaniaethau mawr mewn safbwyntiau rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol, gyda 57% o’r dosbarth canol yng Nghymru am weld y Deyrnas Unedig yn derbyn mwy o ffoaduriaid, o gymharu â 41% o’r dosbarth gweithiol oedd â’r un farn.
Roedd dwywaith cymaint o’r dosbarth gweithiol nag oedd o’r dosbarth canol o’r farn na ddylwn ni dderbyn ffoaduriaid o gwbl, sef 21% o gymharu â 10%.
Gwahaniaeth barn o ardal i ardal
Yn ôl y gwaith ymchwil, os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, neu’r de ddwyrain, rydych chi’n fwy tebygol o gredu y dylai’r DU dderbyn rhagor o ffoaduriaid, 59% o gymharu â 49% ledled Cymru.
Ac ar yr ochr arall, mae pobl y canolbarth/gorllewin a’r gogledd, lle rydych yn fwy tebygol o feddwl yn wahanol, sef na ddylai’r wlad dderbyn ffoaduriaid, (19% a 22%, lle mae’r ffigwr yn 16% ledled Cymru).
Yn ôl Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr Ymchwil Beaufort, mae’n werth cofio bod y rhai sy’n derbyn y syniad fwyaf o dderbyn ceiswyr lloches yn bobl sy’n byw mewn ardaloedd poblog ac amlddiwylliannol yng Nghymru, sydd yn “fwy tebygol o fod â mewnfudwyr yn barod yn byw yn eu cymunedau.”
“Mae’n ddiddorol gweld gwahaniaethau nodedig mewn safbwyntiau ar y broblem ceiswyr lloches ledled gwahanol rannu o Gymru,” meddai.