Cafodd Cymru ei deffro o ‘drwmgwsg’ ar ôl pum canrif yn dilyn boddi Tryweryn, yn ôl un cynghorydd lleol fydd yn mynd at y gronfa ddŵr heddiw ar gyfer rali sy’n cynnwys Dafydd Wigley, Dafydd Iwan ac Emyr Llew.
Mae’n 50 mlynedd ers agor yr argae dadleuol yn 1965. Bu’n rhaid symud cymuned gyfan o Gwm Celyn er mwyn boddi’r cwm.
Roedd Elwyn Edwards yn fachgen ifanc pan gafodd Cwm Celyn ei foddi gan gorfforaeth Lerpwl er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer y ddinas, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad y bobl leol a bron pob un o Aelodau Seneddol Cymru.
Am hanner dydd heddiw fe fydd rali wedi’i threfnu gan Blaid Cymru Gwynedd yn argae Llyn Celyn i nodi hanner can mlynedd ers yr agoriad.
Mynnodd Elwyn Edwards bod angen parhau i gynnal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol er mwyn sicrhau nad oedd cenedlaethau i ddod yn anghofio’r cam gafodd ei wneud â phobl Tryweryn.
Cofio’r dydd
Mae disgwyl i’r areithwyr yn y rali gynnwys Dafydd Wigley, Dafydd Iwan, Emyr Llew, Ynyr Llwyd a Liz Saville Roberts, gyda gorymdaith hefyd yn cael ei threfnu o ben draw’r argae i’r brif ffordd.
Dywedodd Elwyn Edwards y byddai croeso i unrhyw un ymuno â nhw a bod “diddordeb mawr” yn y digwyddiad – ond mai cofio’r trychineb fyddai’r prif nod.
“Beth sy’n bwysig ydi bod y genedl ddim yn anghofio beth ddigwyddodd yng Nghwm Celyn a phob cwm arall gafodd ei foddi er trachwant dinasoedd mawr Lloegr,” meddai cynghorydd Llandderfel wrth golwg360.
“Y cof sydd gen i [o ddiwrnod agor yr argae] oedd bod rhes o bobl o boptu – roedd yna geir yn mynd ar draws yr argae, pobl wedi cael gwahoddiad swyddogol i’r agoriad, a phobl leol yn eu mysg.
“Wedyn roedd pobl yn codi’r ceir oddi ar y llawr a’u hysgwyd a’u gollwng nhw, a’r ceir yn rocio.”
Trobwynt
Roedd boddi Tryweryn yn drobwynt hanesyddol i Gymru, yn ôl Elwyn Edwards, a arweiniodd at gynnydd mewn cenedlaetholdeb wrth i bobl gwestiynu’r ffordd yr oedd Lloegr yn elwa oddi ar adnoddau naturiol Cymru.
“Mi ddeffrodd Cymru’r diwrnod hwnnw o drwmgwsg o bum canrif,” meddai’r cynghorydd Plaid Cymru.
“Dyna’r brotest gyntaf dros genedlaetholdeb Cymru ers dyddiau Owain Glyndŵr, ac wrth gwrs fe newidiodd hanes Cymru’r diwrnod hwnnw.
“Mae cenedlaethau ifanc yn gwybod yr hanes, ond mae’n bwysig cynnal cyfarfodydd fel hyn bob hyn a hyn rhag i’r cof fynd i gysgu, cadw rhywfaint o genedlaetholdeb yn y Gymru sydd ohoni yn dal i fynd.”