Mae ffordd yr A55 ger Y Fali ar Ynys Môn wedi cael ei chau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn damwain ddifrifol y bore ma.
Yn ôl adroddiadau roedd hyd at bum car ac un beic modur yn rhan o’r ddamwain, ac mae’r gwasanaethau brys gan gynnwys ambiwlans awyr eisoes wedi cyrraedd y safle.
Mae’r ddamwain wedi achosi oedi hir i’r ddau gyfeiriad ac nid yw’r traffig yn symud o gwbl mewn rhai mannau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddamwain wedi digwydd ger cyffordd 3 yng Nghaergeiliog a’u bod yn disgwyl y bydd y ffordd ynghau am beth amser.
Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau bod sawl cerbyd yn gysylltiedig â’r ddamwain.