Dr Ruth Hussey
Dylid sefydlu cynllun 1,000 diwrnod i helpu mamau newydd a’u plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey.

Yn ôl Dr Hussey, dydy 10% o famau newydd na’u plant ddim yn derbyn cymorth digonol o enedigaeth hyd at ddwy oed.

Dywed yr adroddiad fod dwy flynedd gyntaf bywyd plentyn yn gallu cael effaith sylweddol ar weddill eu bywydau.

Ysmygu ac yfed alcohol 

Serch hynny, mae’n ymddangos y bu gostyngiad yn nifer y bobol ifanc sy’n ysmygu ac yfed alcohol.

Yn ôl yr adroddiad, 8% o fechgyn a 9% o ferched 15 ac 16 oed sy’n ysmygu bob wythnos, tra bod 15% o fechgyn a 13% o ferched sy’n yfed alcohol yn wythnosol.

Dyma’r lefelau isaf ers dechrau cofnodion yn 1986.

Roedd Dr Hussey hefyd yn llawn canmoliaeth am y cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol.

Salwch meddwl 

Serch hynny, mae salwch meddwl ymhlith plant a phobol ifanc wedi cynyddu o fwy na 100% rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2014.

Disgwyliad oes dynion ar hyn o bryd yw 78.3 oed, a disgwyliad oes menywod yw 82.3 oed.

81% o oedolion a ddywedodd eu bod nhw’n iach, ac mae’r ffigwr hwnnw wedi cynyddu ychydig ers yr adroddiad blaenorol.

40% o oedolion sy’n parhau i or-yfed, tra bod 20% yn ysmygu, ac mae 58% o’r boblogaeth dros eu pwysau neu’n ordew.