John McDonnell
Mae canghellor yr wrthblaid wedi amddiffyn ei dro pedol dros bolisi economaidd Llafur, gan fynnu ei fod wedi newid ei feddwl am gefnogi cynlluniau George Osborne ar ôl cwrdd â theuluoedd sydd wedi’u heffeithio ar ôl i safle cynhyrchu dur Redcar gau.

Roedd John McDonnell wedi dweud yn wreiddiol y byddai’n cefnogi cynlluniau’r Llywodraeth i orfodi llywodraethau’r dyfodol i gadw arian dros ben yn eu cyllidebau.

Wrth egluro’r tro pedol, sydd wedi amlygu rhaniadau mawr o fewn y Blaid Lafur, dywedodd John McDonnell nad oedd e am gael ei gysylltu â pholisi George Osborne.

Er fydd Llafur bellach yn pleidleisio yn erbyn y mesur, mynnodd nad oedd y blaid yn gwadu’r ddyled.

“Dwi heb newid fy meddwl ar hynny, ond dwi wedi newid fy meddwl ar y tactegau seneddol,” meddai wrth Sky News.

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi cefnogi’r tro pedol.

‘Llanast llwyr’

 

Wrth egluro ei safbwynt, a gafodd ei wawdio fel “llanast llwyr” gan un AS Llafur yn dilyn cyfarfod o’r Blaid Lafur Seneddol, dywedodd John McDonnell ei fod wedi cael ei daro gan effaith bosibl rhagor o lymder.

“Fe fues i yn Redcar ac fe wnes i gwrdd â gweithwyr y gwaith dur ac roedd teuluoedd mewn dagrau am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw o ganlyniad i fethiant y Llywodraeth i weithredu ac ymyrryd,” meddai.

“Sylweddolais, o achos goblygiadau methiant y Llywodraeth i fuddsoddi mewn adeiladau, sgiliau, y toriadau sy’n mynd i ddechrau dod nawr, sylweddolais fod pobl yn mynd i ddioddef yn wael.

“Dwi ddim am i’r Blaid Lafur fod yn gysylltiedig â’r polisi hwn.”

Dywedodd yr AS Llafur, Mike Gapes nad oedd “arweinyddiaeth gredadwy” yno bellach, tra bod y tro pedol, yn ôl John Mann AS, yn dangos bod John McDonnell ym “amhrofiadol iawn.”