Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 40 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o dreisio dynes y tu allan i Brifysgol Caerdydd.

Mae  Remus Hamza o Lanrafon, Caerdydd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar y ddynes 20 oed ger y brifysgol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn oriau man 20 Medi yn ystod Wythnos y Glas y brifysgol.

Dywedodd David Pinnell ar ran y diffynnydd wrth Lys y Goron Caerdydd bod Remus Hamza yn bwriadu pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Fe siaradodd Hamza gyda chymorth cyfieithydd i gadarnhau ei enw yn unig yn ystod y gwrandawiad byr.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cyflwyno ple yn ystod gwrandawiad arall ym mis Rhagfyr.

Mae dyddiad wedi cael ei bennu ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf ar gyfer yr achos.