Anne Jackson
Mae dyn a oedd wedi llofruddio ei lysfam yn ei chartref ym Mrynbuga, wedi ennill apêl i leihau ei ddedfryd.

Cafodd Timothy Jackson ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mawrth ar ôl pledio’n euog i ladd y bardd adnabyddus Anne Jackson, 78, yn ei chartref yn 2014.

Roedd Jackson, 49, wedi ei thrywanu pum gwaith gyda chyllell ar ôl iddo golli ei dymer tra ar ymweliad a’i lysfam a’i dad yn eu fferm ym Mrynbuga.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf 19 mlynedd dan glo cyn gwneud cais am barôl.

Yn y Llys Apêl yn Llundain heddiw, fe benderfynodd tri barnwr y dylai ei ddedfryd gael ei leihau o 19 mlynedd i 16 mlynedd ac wyth mis.

Roedd Anne Jackson, a oedd yn ysgrifennu o dan yr enw Anne Cluysenaar, wedi bod yn briod a thad Timothy Jackson ers 39 mlynedd.

Roedd hi wedi bod yn dysgu cwrs ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.