Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r dystiolaeth sydd wedi arwain y cyfyngiadau diweddaraf mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Ragfyr 1).
“Roeddem ni’n cefnogi’r cyfnod clo dros dro ar yr amod nad cyfnod clo oedd y strategaeth rhagosodedig,” meddai Adam Price.
“All y Prif Weinidog rannu manylion y cyngor a thystiolaeth wyddonol sydd wedi arwain at y penderfyniad i gau caffis, bwytai a thafarndai am 6yh, ac all y rhain gael eu rhyddhau yn llawn?”
Ateb Mark Drakeford
Atebodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, drwy ddweud bod y “dystiolaeth eisoes ar gael i aelodau, cafodd ei ryddhau gan Sage ar y 11eg a 19eg o Dachwedd ac mae yn ein hadroddiadau ni”.
“Dyma’r un wyddoniaeth wnaeth arwain at Lywodraeth yr Alban, a’u cydweithwyr yno, yn cymryd y penderfyniadau wnaethon nhw,” meddai wedyn.
“Dyma’r un wyddoniaeth oedd ar gael i Loegr pan benderfynon nhw gyflwyno cyfyngiadau Haen 3 a dyma’r un dystiolaeth wnaeth berswadio ein prif swyddog gwyddonol a phrif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i awgrymu ein bod yn gweithredu fel hyn.
“Does dim prinder tystiolaeth.”
Adam Price yn taro’n ôl
Aeth Adam Price yn ei flaen i ddweud bod “ymddiriedaeth gyhoeddus yn diflannu gan nad yw pobol yn deall y rhesymeg”.
“Sut bod hi’n fwy diogel i bedair aelwyd gwahanol allu cael coffi gyda’i gilydd nag i ddau berson o’r un aelwyd gael peint?” meddai.
“Does dim modd dianc o’r ffaith bod yno bethau ymylol sydd wastad yn mynd i allu cael eu pwyntio allan wrth gyflwyno systemau cymhleth fel y rhai rydym wedi gorfod eu cyflwyno,” meddai Mark Drakeford wedyn.
Paul Davies yn codi gofidion am berchnogion tafarndai
Cododd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, bryder bod nifer o landlordiaid tafarndai wedi disgrifio effaith niweidiol y cyfyngiadau newydd sy’n golygu y bydd yn rhaid i dafarndai a thai bwyta gau am 6yh.
Dyfynnodd John Evans, perchennog tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, oedd wedi dweud nad yw’r cyfyngiadau’n deg ar “dafarndai a bwytai sydd wedi dilyn y rheolau a gwneud y pethau cywir”.
“Bydd y colledion mewn elw yn enfawr, bydd y rhaid i ni daflu cwrw a stoc eraill i ffwrdd,” meddai.
“Felly, Brif Weinidog, beth yw eich neges chi i fusnesau fel hyn? Oherwydd mae digonedd ohonyn nhw ar draws y wlad ac mae eu bywoliaeth yn y fantol,” meddai Paul Davies.
“Fy neges i’r busnesau hynny yw, er gwaethaf yr ymdrechion maen nhw wedi’u gwneud, rydym yn dal i wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wrth ateb.
Dywedodd fod y “niferoedd o bobol sydd wedi’u heintio yn cynyddu” a’i bod hi’n briodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu.
Delyth Jewell “angen gwneud ei gwaith cartref”
Dechreuodd y sesiwn heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 1) gyda chwestiwn gan Delyth Jewell o Blaid Cymru.
“A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gost a amcangyfrifir ar gyfer deuoli’r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun?” holodd.
Atebodd y Prif Weinidog drwy ddweud mai £590m fyddai’r gost derfynol, ond roedd Delyth Jewell yn mynnu mai £1.7bn fyddai cyfanswm cost deuoli’r A465 dros 30 mlynedd.
“Beth am wario’r arian yma ar gymunedau, ar gynlluniau hamdden, gwella tai ac ar ysgolion?” meddai.
“Mae gennyf ofn nad oes gan yr aelod unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o’r model buddsoddiad cydfuddiannol, sef model sydd wrth gwrs wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth yr Alban ar ôl iddo gael ei gyflwyno yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wedyn.
“Mae hi’n cyfuno cyfres o gostau at ei gilydd ac yn methu â gwneud synnwyr ohonyn nhw.
“Mae gennyf ofn bod angen i’r aelod fynd yn ôl, gwneud ei gwaith cartref, ac yna gallwn gynnal trafodaeth gallach.”