Ashley Williams yn wên i gyd cyn gêm Cymru v Andorra (llun: CBDC)
Mae chwaraewyr Cymru yn benderfynol o wneud yn siŵr mai dechrau ac nid diwedd y daith fydd cyrraedd Ewro 2016, yn ôl capten y tîm Ashley Williams.
Fe sicrhaodd y pêl-droedwyr eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop nos Sadwrn er iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn Bosnia, ac mae’r sylw eisoes wedi troi tuag at y trefniadau ar gyfer Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Bydd llawer o’r cefnogwyr sydd eisoes wedi dechrau trefnu eu ffordd i Ffrainc yn hapus dim ond i fod yno o’r diwedd, ac fe fydd tipyn o ddathlu nos fory pan fydd y tîm yn herio Andorra yng ngêm olaf eu hymgyrch.
Ond i Ashley Williams megis dechrau mae’r gwaith caled o sicrhau na fydd Cymru’n gorfod aros 58 mlynedd arall i brofi’r un gorfoledd.
Edrych i’r dyfodol
“Mae wedi cymryd cymaint o amser a chymaint o ymdrech i gyrraedd twrnament,” cyfaddefodd yr amddiffynnwr.
“Ond dyw’r gwaith ddim ar ben, mae’n ddechrau ar rywbeth arall nawr. Dyna beth mae’n rhaid i ni wneud er mwyn parhau i wneud yn dda a pharhau i gyrraedd y cystadlaethau rhyngwladol.
“Dw i wedi siarad ychydig gyda’r rheolwr yn barod ar yr awyren gartref [o Fosnia] am ein cynlluniau ni at y dyfodol, dyna beth mae’n rhaid i ni fel chwaraewyr ei wneud nawr.
“Rydych chi’n edrych ar y chwaraewyr ifanc sy’n dod drwyddo ac maen nhw’n rhai talentog iawn, felly mae angen i ni wneud yn siŵr fod hwn yn ddechrau ar gyfnod da.”
Cofio cyfraniad Speed
Fe ddaeth rhediad Cymru o ddeg gêm gystadleuol heb golli a phum gêm heb ildio i ben nos Sadwrn, wrth i Fosnia ennill o 2-0 ar noson wlyb yn Zenica.
Ond roedd y tîm wedi gwneud digon dros wyth gêm flaenorol yr ymgyrch ragbrofol i sicrhau eu lle yn Ffrainc, gan gynnwys cipio buddugoliaethau gwych yn erbyn Israel a Gwlad Belg.
Mewn gwirionedd fe gafodd hadau’r ymgyrch lwyddiannus hon eu plannu flynyddoedd yn ôl wrth i John Toshack roi capiau cyntaf i gnewyllyn y garfan bresennol, gyda Gary Speed ac yna Coleman yn gorffen y gwaith o’u meithrin a’u gwylio’n blaguro.
Yn ôl Ashley Williams fe gafodd y garfan gyfle ar ôl y gêm ym Mosnia i gofio am y rheiny gyfrannodd at eu llwyddiant oedd ddim gyda nhw bellach.
“Rydyn ni wastad yn ei gofio e [Speed] pan ‘dyn ni’n cyfarfod fel carfan, ac yn chwarae dros Gymru. Fe ddechreuodd e’r broses sydd wedi’n cael ni i fan hyn,” meddai’r capten.
“Fe wnaethon ni siarad amdano fe [a] Dai Williams, ein dyn cit fu farw ym mis Ionawr … pan roedden ni’n eistedd yn y gwesty ar ôl gêm Bosnia yn adrodd straeon, canu ac yn y blaen. Roedden ni eisiau gwneud hynny achos bod y ddau ohonyn nhw mor bwysig i ni.”
Stori: Iolo Cheung