Tîm Cymru yn dathlu ym Mosnia ar ôl sicrhau eu lle yn Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi mynnu na fydd yn arbrofi gyda’i dîm yn erbyn Andorra nos fory, a hynny er eu bod nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewro 2016.
Fe ddaeth y foment hanesyddol i’r tîm cenedlaethol nos Sadwrn wrth i Gyprus drechu Israel o 2-1, gan olygu bod y Cymry wedi cyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf er eu bod nhw wedi colli 2-0 i Bosnia.
Gyda thîm gwanaf y grŵp nawr yn paratoi i ymweld â Chaerdydd nos Fawrth, fodd bynnag, mae Coleman yn cyfaddef y bydd ambell newid i’w dîm.
Ac mae capten Cymru Ashley Williams wedi dweud ei fod o a gweddill y tîm yn edrych ymlaen nawr at ddathlu o flaen y dorf gartref o 33,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Gareth Bale, Aaron Ramsey a James Collins yn ymarfer eu pasio yn y sesiwn ymarfer cyn gêm Cymru v Bosnia – a Neil Taylor a Jonny Williams yn cymryd pethau ychydig llai o ddifrif!
‘Gorffen yn dda’
Gyda Chymru wedi croesi’r llinell o’r diwedd ar ôl 58 mlynedd hir o aros, doedd hi ddim yn syndod gweld Coleman dal yn wên i gyd wrth siarad â’r wasg heddiw.
Ond mae’n debyg na fydd gormod o newid i’r tîm ar gyfer ymweliad Andorra, er y gallai hwn fod yn gyfle i ambell un o’r chwaraewyr ar gyrion y garfan gan gynnwys y golwr Owain Fôn Williams ennill cap.
“Roedd gen i syniad o’r siâp ac o’r tîm [fydd yn herio Andorra] hyd yn oed cyn gêm Bosnia,” meddai Chris Coleman.
“Felly fydd y tîm ‘dych chi’n gweld fory ddim yn un sydd wedi deillio o’r llwyddiant ar ôl y canlyniad [nos Sadwrn].
Dw i bron yn siŵr y byddai’n mynd gyda’r tîm yna [dw i wedi’i ddewis yn barod], ac os oes un neu ddau oedd yn dechrau ym Mosnia sydd ddim yn dechrau fory fydd hynny’n ddim i’w wneud â’u perfformiad.
“Ond fyddai ddim yn arbrofi. Bydd y stadiwm fory yn llawn, yr awyrgylch yn wych, a ‘dyn ni ddim eisiau siomi, ‘dyn ni eisiau gorffen yn dda.”
Dathlu unwaith eto
Fe gyfaddefodd capten Cymru Ashley Williams y byddai pob chwaraewr hefyd yn awyddus i fod ar y cae fory, ar noson ble bydd y trwch o gefnogwyr Cymru o’r diwedd yn cael dathlu’n iawn â’u tîm.
“Fe ddylai hi fod yn noson arbennig. Rydyn ni jyst eisiau mynd allan yna a pherfformio, ac wedyn dathlu gyda’n cefnogwyr ni ar y diwedd,” meddai’r amddiffynnwr.
“Mae lot ohonom ni wedi bod ar y cae yn ystod nosweithiau gwael i Gymru, felly mae pawb eisiau bod allan yno ar gyfer noson dda!
“Rydyn ni i gyd yn bendant eisiau chwarae nos fory.”
Er bod gofynion pêl-droed proffesiynol yn golygu nad yw’r tîm wedi mynd dros ben llestri â’u dathliadau, awgrymodd Ashley Williams y byddan nhw’n gwneud yn siŵr eu bod yn dathlu mewn steil nos Fawrth.
“Dydyn ni heb ddathlu gormod achos mae gennym ni gêm i ddod, ac mae’n bwysig ein bod ni mewn cyflwr da i chwarae’r gêm honno ac wedyn mynd nôl i’n clybiau ni mewn cyflwr da hefyd,” meddai’r capten.
“Rydyn ni wedi dal nôl ychydig, ond dw i’n siŵr y cawn ni noson dda nos fory.”
Stori: Iolo Cheung