Mae dyn 25 oed wedi ei arestio ar ôl i Ambiwlans gael ei ddwyn yn Shotton yn Sir y Fflint.

Cafodd cerbyd arall ei ddanfon i’r digwyddiad, nos Sadwrn Tachwedd 14, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r Ambiwlans yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae dyn o Gei Connah wedi’i arestio ac wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.”

Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans fod dwyn un o’u cerbydau’n “weithred eithriadol o anghyfrifol” ac y gallai fod wedi achosi “niwed difrifol iawn”.