Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud y bydd yn gadael y Tŷ Gwyn os yw’r Coleg Etholiadol yn cadarnhau buddugoliaeth Joe Biden yn ffurfiol.

Ond mae wedi mynnu y byddai’r penderfyniad yn “gamgymeriad” wrth iddo barhau i wneud honiadau o “dwyll” yn yr etholiad arlywyddol.

Er nad oes unrhyw dystiolaeth o dwyll, mae Donald Trump a’i dim cyfreithiol wedi bod yn ceisio taflu cysgod dros ganlyniad yr etholiad.

Fe enillodd Joe Biden o gyfran helaeth ym mhleidlais y Coleg Etholiadol a phleidlais y bobl, gan ennill bron i 80 miliwn o bleidleisiau.

Mae llywodraeth Donald Trump eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw’n gwneud paratoadau ar gyfer y trosglwyddiad ym mis Ionawr, ond mae wedi ei gwneud yn glir na fydd yn derbyn canlyniad yr etholiad, hyd yn oed os yw’n gadael y Tŷ Gwyn.

“Mae’n mynd i fod yn anodd iawn i ildio. Achos ry’n ni’n gwybod bod ’na dwyll anferth wedi digwydd,” meddai.

Fe wrthododd ddweud a fyddai’n ymgeisio am yr arlywyddiaeth unwaith eto yn 2024.

Bydd yn rhaid i bob talaith gadarnhau eu canlyniadau pan fydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd ar Ragfyr 14 ac mae’n rhaid i unrhyw heriau gael eu cwblhau erbyn Rhagfyr 8.