Yn cam arall i'r rheolwr Chris Coleman a'i dîm (llun: CBDC)
Fe fydd chwaraewyr Cymru yn deffro heddiw gan obeithio sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn bendant heno wrth iddyn nhw herio Bosnia yn eu grŵp rhagbrofol.

Dim ond pwynt sydd ei angen ar dîm Chris Coleman i fod yn saff o le yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, ac fe gawn nhw ail gyfle i sicrhau eu lle yn erbyn Andorra nos Fawrth os nad yw canlyniad heno’n mynd o’u plaid.

Ond gyda thîm Cymru ar frig eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, heb golli mewn deg gêm gystadleuol a heb ildio yn eu pump diwethaf, fe allan nhw deithio i Zenica yn hyderus heno.

Mae’n brawf o ba mor bell mae’r tîm wedi dod dros y tair blynedd diwethaf, gyda Coleman yn cyfaddef ei fod wedi ystyried ymddiswyddo tair blynedd yn ôl pan gollodd Cymru 6-1 yn Serbia ar un o’u hymweliadau mwyaf diweddar â’r Balcanau.

Pod Pel-droed Golwg360 cyn y gêm fawr:


Dyddiau du

Fe ddigwyddodd y noson drychinebus honno yn Novi Sad ar ddechrau ymgyrch ragbrofol aflwyddiannus Cwpan y Byd 2014, ychydig fisoedd wedi i Coleman gymryd yr awenau yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Yng nghanol yr amgylchiadau anodd a’r canlyniadau gwael fe gyfaddefodd Coleman ei fod, bryd hynny, wedi ystyried camu o’r neilltu.

“Fe wnes i ddechrau amau a oeddwn i’n ddigon da ar gyfer y swydd ar ôl gêm Serbia,” meddai Coleman.

“Roedd e’n swydd roeddwn i eisiau, ond wnes i ddod mewn ar yr adeg anghywir? Hwnna oedd yr isaf dw i erioed wedi bod.

“Dw i wedi bod mewn clybiau yn ystod adegau anodd, ‘dych chi’n colli gêm neu gael rhediad gwael. Ond wnaethon ni ddim jyst colli yn Serbia, fe godon ni gywilydd ar ein hunain.

“Pan ‘dych chi’n gwneud hynny rydych chi’n codi cywilydd ar eich gwlad, ac mae hwnna’n beth hollol wahanol. Doeddwn i erioed wedi teimlo hynny o’r blaen.”

Y ‘genhedlaeth aur’ yn barod

Yn ffodus mae Cymru bellach mewn lle llawer gwell, o ran safon eu pêl-droed yn ogystal â’r ysbryd yn y garfan.

Dywedodd aelod mwyaf profiadol y garfan, Chris Gunter, fod y tîm nawr yn awchu i groesi’r llinell a chyrraedd yr Ewros o flaen y criw o gefnogwyr ffyddlon sydd wedi teithio allan yn Zenica i’w dilyn.

Mae Gunter a’r golwr Owain Fôn Williams hefyd wedi bod yn siarad am beth fyddai cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd yn ei olygu i Gymru, a Dave Edwards yn gobeithio gweld dwbl y dathlu wrth i’r tîm rygbi lwyddo hefyd.

Cyfweliad arbennig ag Owain Fôn Williams cyn y gêm:

Yn ôl Hal Robson-Kanu fe fydd y chwaraewyr hefyd yn cymryd y cyfle, pan ddaw’r foment, i gofio’r rheiny a gyfrannodd at eu llwyddiant sydd ddim gyda nhw bellach.

Ac fe fyddai un dyn arall, John Charles, yn falch iawn o lwyddiant y tîm presennol petai o gwmpas heddiw yn ôl ŵyr seren y tîm o 1958.

Y gobaith iddyn nhw i gyd fydd bod Cymru, erbyn tua 9.45yh heno, o’r diwedd yn gallu rhoi’r bwganod hanesyddol yna i’r neilltu a dathlu eu lle haeddiannol ymysg elit y byd pêl-droed rhyngwladol.

Stori: Iolo Cheung