Fe fydd Cymru yn dal yng Nghwpan Rygbi’r Byd doed a ddelo pan fydd y chwiban olaf yn cael ei chwythu yn Twickenham heno – ond fe fyddan nhw mewn safle tipyn cryfach os mai nhw ac nid Awstralia fydd wedi cipio’r pwyntiau.

Mae’r ddau dîm eisoes wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl sicrhau eu bod yn saff o orffen yn y ddau safle uchaf yng Ngrŵp A, gan anfon Lloegr adre’n gynnar yn y broses.

Ond fe fyddai buddugoliaeth, ac ennill y grŵp, yn help mawr i Gymru wrth wynebu rowndiau nesaf y gystadleuaeth.

Gorffen ar y brig, ac fe fyddan nhw mwy na thebyg yn herio’r Alban yn y chwarteri, ac yna Ffrainc, Iwerddon neu’r Ariannin yn y rownd gynderfynol.

Colli, ac fe fydd gornest yn erbyn De Affrica yn eu hwynebu cyn i enillwyr y gêm honno mwy na thebyg herio Seland Newydd yn y gêm wedyn.

Chwe newid

Does gan Cymru ddim record dda yn ddiweddar yn erbyn Awstralia, ac maen nhw wedi colli eu deg gêm diwethaf yn erbyn y Wallabies.

Ond roedd sawl un o dîm Cymru, yn ogystal â’u hyfforddwr Warren Gatland, yn rhan o garfan y Llewod a enillodd eu cyfres nhw allan yn Awstralia ddwy flynedd yn ôl. Chwe newid sydd i dîm Cymru ar gyfer y gêm, gyda Liam Williams yn dychwelyd ar yr asgell a George North yn symud i mewn i’r canol.

Mae blaenasgellwr Awstralia Michael Hooper wedi cael ei wahardd ar gyfer yr ornest, fodd bynnag, a dyw cefnwr y Wallabies Israel Folau ddim 100% yn ffit chwaith.

Gyda Justin Tipuric a Sam Warburton yn dechrau i Gymru mae disgwyl i’r gystadleuaeth yn y ryc fod yn un ffyrnig, ac mae gwedd ymosodol iawn ar dîm Gatland wrth iddyn nhw chwilio am y fuddugoliaeth allai olygu gemau haws i’w ddod nes ymlaen yn y twrnament.