Faerdre Fach gynt - llun o wefan y busnes
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am gyflwyno deddf er mwyn gwarchod enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Ac maen nhw’n dweud bod modd defnyddio mesur sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd er mwyn cyflawni hynny.
Yn ôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol mae angen cyflwyno mesurau gorfodi newydd, megis hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau atal dros dro, er mwyn rhoi gwell adnoddau i awdurdodau warchod treftadaeth Cymru.
‘Happy Donkey Hill’
Mae’r pwyllgor yn dadlau nad oes digon yn cael ei wneud ar hyn o bryd i warchod enwau lleoedd hynafol yng Nghymru, a bod angen llenwi’r bwlch yn y gyfraith.
Mae’n dilyn pwysau gan fudiadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ar ôl nifer o achosion o enwau hardd Cymraeg yn cael eu colli.
Mae un o’r enghreifftiau gwaetha’ yn ardal Llandysul lle mae enw fferm Faerdre Fach wedi ei droi yn Happy Donkey Hill.
‘Tystiolaeth rymus’
“Mae’n hanfodol bod ein treftadaeth ddiwylliannol a phensaernïol yn cael ei diogelu i’r oesoedd i ddod,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Christine Chapman.
“R’yn ni’n credu bod potensial cyfrannu at y nod hwnnw drwy’r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
“Fe glywson ni dystiolaeth rymus am rôl enwau lleoedd hanesyddol ac am y goleuni unigryw y maen nhw’n ei roi ar dreftadaeth Cymru.
“Roedd yn syndod clywed nad oes gan enwau sydd yn bod ers canrifoedd ddim gwarchodaeth statudol a bod modd eu newid yn hawdd. R’yn ni’n credu bod y Bil yn rhoi cyfle delfrydol i unioni hynny.”